– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig. Rwy’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Diolch, Lywydd. Mae’r Llywodraeth Cymru hon, fel y nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn ymrwymedig i gymunedau gwledig llwyddiannus, cynaliadwy. Rwy’n glir y gellir sicrhau buddion gwirioneddol—rhai academaidd, diwylliannol a chymdeithasol—i ddisgyblion a chymunedau drwy ddarparu addysg o safon uchel mewn ysgolion bach ac ysgolion gwledig. Fel y nodais yn fy natganiad i'r Cynulliad ym mis Gorffennaf, mae cryfhau ac ymestyn perthnasoedd rhwng ysgolion, a blaenoriaethu arweinyddiaeth addysg, yn hanfodol i godi safonau ac ymdrin â'r bwlch cyrhaeddiad. Mae strategaeth genedlaethol benodol ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn cydnabod bod ysgolion a chymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru yn wynebu heriau gwahanol wrth inni symud ymlaen gyda'n diwygiadau.
Rwyf i’n gwybod, ac mae rhieni ar draws cymunedau gwledig yn gwybod, bod ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn chwarae rhan bwysig mewn codi safonau ac ymestyn cyfleoedd i bawb. Yn wir, maen nhw’n aml yn hanfodol mewn cynnwys disgyblion a theuluoedd o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a chodi dyheadau disgyblion. Fel y gŵyr yr Aelodau, roedd y Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd yma yr wythnos diwethaf yn profi ein diwygiadau. Mae'n werth nodi bod gan y Ffindir, system sy'n perfformio'n gyson dda mewn astudiaethau OECD, gyfran sylweddol o ysgolion bach ac ysgolion gwledig, ac mae’n cefnogi yn ymarferol eu safle a’u swyddogaeth o fewn y system addysg.
Rwyf wedi ymrwymo i ddiwygiadau addysg fel ein cenhadaeth genedlaethol. Mae ein pobl ifanc i gyd yn haeddu cyfle cyfartal, beth bynnag fo'u cefndir, i gyrraedd y safonau uchaf posibl. Ac rwy’n uchelgeisiol dros ysgolion bach ac ysgolion gwledig, fel yr wyf dros bob ysgol yng Nghymru. Wrth gydnabod yr heriau a'r blaenoriaethau ar gyfer addysg mewn lleoliadau gwledig a lleoliadau llai, byddwn yn cymryd y camau canlynol: byddaf yn ymgynghori yn fuan ar welliannau i god trefniadaeth ysgolion, ynglŷn â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Gadewch imi fod yn glir, Lywydd, nad yw hyn yn golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau. Fodd bynnag, mae'n sicrhau bod ar awdurdod lleol angen achos cryf dros gau, a bod awdurdodau lleol yn ystyried yn gydwybodol yr holl ddewisiadau eraill dichonadwy heblaw cau, gan gynnwys ffedereiddio. Rwy’n cynnig rhestru a dynodi ysgolion gwledig am y tro cyntaf erioed. Wrth ystyried cau ysgol, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol sefydlu pa un a yw’r cau arfaethedig yn ymwneud ag ysgol o'r fath. A byddaf yn darparu arian i annog a chefnogi datblygiad ffederasiynau ar draws yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ynghyd â gwell gwybodaeth ac arweiniad i'r rhai hynny sy'n ystyried cydweithio a ffurfio ffederasiwn. Bydd ein cynlluniau ehangach i ddatblygu arweinwyr ysgolion yn cynnwys cynigion i gynyddu gallu arweinwyr profiadol, llwyddiannus mewn ysgolion gwledig i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol ar draws grwpiau o ysgolion gwledig.
Rwy’n cynnig sefydlu grant ysgolion gwledig ac ysgolion bach o £2.5 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill 2017 ymlaen, i’w weinyddu gan y consortia addysg rhanbarthol, mewn cydweithrediad â'u hawdurdodau addysg partner lleol, i’w ddefnyddio i gefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion, gan gynnwys cydweithio a chysylltiadau anffurfiol; i annog ffyrdd arloesol o ddefnyddio, er enghraifft, technolegau newydd i ymdrin ag ymynysiaeth broffesiynol drwy harneisio grym technoleg gwybodaeth; i ddarparu cymorth gweinyddol mewn ysgolion lle mae gan y penaethiaid ymrwymiad addysgu sylweddol yn eu hamserlen; ac i gynyddu'r defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion.
Lywydd, nid strategaeth i sefyll yn llonydd yw hon. Mae'n cydnabod pwysigrwydd addysg yn ein cymunedau gwledig, fel y mae ar draws y wlad, ond bydd hefyd yn sicrhau y darperir addysg arloesol ac uchelgeisiol i’r disgyblion yn y cymunedau hynny.
I gloi, dim ond naw mis yn ôl, yn eistedd draw yn y fan yna, roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno dadl fer i'r Cynulliad am bwysigrwydd ysgolion gwledig. Nawr, fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gallu adnabod a hyrwyddo swyddogaeth hanfodol ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn ein cenhadaeth genedlaethol i leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac i godi safonau ar gyfer pob un o'n pobl ifanc.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Mae’n hen bryd, rwy’n meddwl, i ni fynd i’r afael â rhai o’r trafferthion sydd wedi bod yn llethu ac yn gysgod mawr dros ysgolion bychan ac ysgolion gwledig dros y blynyddoedd. Fel rhywun sydd yn byw mewn cymuned wledig, fel rhywun sydd yn rhiant i blant sydd yn mynychu ysgol fechan wledig ac yn llywodraethwr ar ysgol honno, rwy’n arbennig yn croesawu’r datganiad, a hefyd, wrth gwrs, yn datgan fod gen i ddiddordeb yn hynny o beth.
Rŷch chi’n sôn, wrth gwrs, am fynd ati i greu strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig, ond nid ydych yn rhoi llawer o fanylion ynglŷn â sut, efallai, rŷch chi’n mynd i fynd ati i wneud hynny. Felly, efallai y gallech chi sôn ychydig am y broses sydd gennych chi mewn golwg am hynny, a phryd rŷch chi’n disgwyl y bydd y strategaeth yma yn ei lle.
Rwy’n croesawu yn fawr y newid yn y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion yn y cod trefniadaeth ysgolion. Yn sicr, mae hynny yn rhywbeth sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr. Wrth gwrs, prif ffactor y cod presennol, os rwy’n cofio’n iawn, wrth ystyried cau yw gwarchod deilliannau addysgol, ac nid wyf yn credu bod neb yn awgrymu y dylid newid hynny. Rwy’n gwybod mai rhoi ffocws ar ansawdd yr addysg sydd ei angen, ac nid, efallai, o reidrwydd ar bethau mwy ffisegol, fel lleoedd gwag ac yn y blaen. Rŷch chi wedi sôn am yr angen i ystyried opsiynau ehangach yn hytrach na chau. Efallai y gallech chi sôn ychydig ynglŷn â sut y gallwn ni ehangu'r fwydlen o opsiynau sydd yna, oherwydd, hyd y gwelaf i, mae clystyru a ffedereiddio ac efallai rhyw elfen o gydweithio ychydig yn fwy bwriadol. Ond, yn fwy na hynny, pa syniadau sydd yna i ysgolion i’w hystyried?
Gan fy mod i wedi cyfeirio at leoedd gwag a chan nad ŷch chi’n cyfeirio at lefydd gwag yn y datganiad, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn ffocws cryf i’ch rhagflaenwyr chi beth bynnag o safbwynt y pwyslais ar aildrefnu ysgolion mewn ardaloedd gwledig, a gaf i ofyn i chi efallai sôn a ydych chi’n teimlo bod yna ormod o bwyslais wedi bod? A ydych chi am leihau'r pwyslais ar hynny? Yn sicr, mae wedi bod yn ffocws i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—yn un o brif amcanion band A, os rwy’n cofio yn iawn. Felly, a fydd yna lai o bwyslais ar lefydd gwag yn y dyfodol, pan fydd hi’n dod i edrych ar ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â bwriadau ehangach o safbwynt aildrefnu?
I mi, wrth gwrs, nid yw ysgol yn bodoli mewn ‘vacuum’, ac mae angen hefyd edrych ac ystyried beth yw’r cysylltiad rhwng addysg wledig a gwarchod, cefnogi a datblygu cymunedau gwledig yn ehangach. A gaf i ofyn pa drafodaeth rŷch chi wedi ei chael gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill ynglŷn â’r angen i fynd i’r afael â phroblemau ehangach, oherwydd symptom yn aml iawn yw cau ysgol fechan o’r ffaith bod yr economi leol ddim yn cynnal teuluoedd ifanc a bod pobl yn gadael a bod diboblogi yn digwydd. Felly, mae trio datrys un heb efallai rhywbeth mwy bwriadol i fynd i’r afael â’r llall ddim ond yn rhan o’r ateb.
Rydw i’n gwybod, yn yr Alban er enghraifft, yn dilyn y comisiwn a gawson nhw ychydig o flynyddoedd yn ôl i edrych ar ysgolion gwledig yn fanna, maen nhw wedi gosod ffocws, er enghraifft, ar gyflwyno canolfannau teuluol mewn ysgolion gwledig a gwasanaethau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion gwledig. Wrth gwrs, mae yna gysylltiad amlwg, efallai, gyda rhai o’r pethau rŷm ni’n clywed oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ar gymunedau ynglŷn â gofal plant a’r parthau plant yma y bu cyfeirio atyn nhw fel cyfle posib. Byddwn i’n licio clywed pa gyfleon rŷch chi’n credu sydd yna o safbwynt darpariaeth wledig yn hynny o beth.
Hefyd, mae yna angen i annog sectorau eraill i chwarae eu rhan ac i gydweithio i gefnogi addysg wledig. Nid wyf i jest yn sôn am bethau fel y sector gwirfoddol, ond yn sicr addysg bellach ac addysg uwch, yn enwedig, efallai, mewn sefyllfa addysg uwchradd wledig. Byddwn i’n licio clywed sut rŷch chi’n meddwl bod yna gyfraniad posibl yn dod o’r cyfeiriad yna i fynd i gefnogi rhai o’r pethau rŷm ni am eu gweld yn digwydd.
Eto yn yr Alban, mae yna gyllid ychwanegol wedi’i darparu i brifysgol yr ucheldir ac ynysoedd yr Alban, i’w hannog nhw i weithio’n agosach gydag ysgolion gwledig. Rŷch chi’n cyfeirio at greu cronfa o £2.5 miliwn, a thra mod i’n croesawu hynny ac yn cydnabod y pwysau ariannol sydd ar y Llywodraeth, efallai yng nghyd-destun rhai o’r cynlluniau eraill, nid yw e cymaint â hynny. Yn sicr, o edrych ar faint yr her a faint yr angen am gefnogaeth ychwanegol sydd yn y cyd-destun gwledig, byddai rhywun wastad eisiau mwy. Ond mi ofynnaf i, efallai, ai man cychwyn yw hyn, oherwydd byddai rhywun yn tybio bod angen ymdrech ehangach. Mae rhywun yn meddwl am dechnoleg gwybodaeth, ac rŷch chi’n cyfeirio ato fel un o’r agweddau—i harneisio pŵer technoleg gwybodaeth gyda’r arian yna. Mi roeddwn i mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf lle’r oedd yr athro yn yr ysgol yn dweud wrthyf i os oes mwy na dau ddisgybl yn mynd ar y we ar yr un pryd, mae’r holl beth yn dod i stop. Felly, mae yna broblemau seilwaith. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn ymwybodol o hynny, ond nid yw rhywun efallai’n teimlo ein bod ni’n gwneud y cynnydd y dylem ei wneud.
Mae denu athrawon, wrth gwrs, i weithio mewn ardaloedd mwy gwledig yn her. Os ŷch chi’n ddirprwy bennaeth mewn ysgol fawr, beth yw’r cymhelliad ichi fynd yn bennaeth mewn ysgol lai? Mae angen gofyn y cwestiwn, oherwydd nid yw’r cymhelliad ariannol o safbwynt cyflog yn gymaint â hynny o’i gymharu â’r baich ychwanegol a’r cyfrifoldebau ychwanegol fydd yn dod yn sgil hynny. Felly, sut fydd y strategaeth rŷch chi’n sôn amdani, efallai, yn help i fynd i’r afael â’r pwysau hynny o safbwynt yr adnoddau staffio?
Ac yn olaf, allwn ni ddim edrych ar sefyllfa ysgolion gwledig heb ystyried hefyd, wrth gwrs, sefyllfa cludiant ysgolion mewn cyd-destun gwledig, oherwydd mae’r ddarpariaeth fel y mae wedi bod, yn crebachu. Beth rŷm ni’n ei weld, wrth gwrs, yw nifer o rieni’n mynd â’u plant gyda nhw i’r trefi neu’r canolfannau lle maen nhw’n gweithio i gael eu haddysgu oherwydd nad yw’r ddarpariaeth drafnidiaeth oedd yna yn y gorffennol yno bellach oherwydd gwahanol doriadau. A oes yna unrhyw ystyriaeth wedi cael ei rhoi, ac, os nad oes, pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i sicrhau a chryfhau’r ddarpariaeth drafnidiaeth ysgolion? Heb hynny, mae’n ei gwneud hi’n anodd iawn i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y gwasanaeth.
Diolch yn fawr iawn, Llyr, am groesawu’r datganiad polisi y prynhawn yma, rwy’n meddwl. I ddechrau drwy sôn am y mater o ffurfio’r polisi, roeddwn wedi gobeithio, drwy fy natganiad, y byddwn yn rhoi cyfeiriad teithio cryf ichi. Byddwn yn cyhoeddi strategaeth lawn yn ffurfiol a fydd yn ein harwain i sicrhau ein bod yn buddsoddi'r £2.5 miliwn mewn modd sy’n seiliedig ar hynny.
Gyda golwg ar y cod trefniadaeth ysgolion, byddaf yn mynd allan i ymgynghoriad ynglŷn â’r rhagdybiaeth yn erbyn cau. Rydych yn hollol iawn: mae rhagdybiaeth o'r fath yn bodoli yn Lloegr; mae hefyd yn bodoli yn yr Alban. Nid yw wedi bodoli yng Nghymru hyd yma. Ond mae agweddau eraill ar y cod y gallai fod pobl yn dymuno gwneud sylwadau amdanynt ac mae hwn yn gyfle, o ystyried ei bod yn dair blynedd bellach ers i'r cod gael ei gyflwyno a’n bod wedi cael tair blynedd o brofiad o ymdrin â'r cod hwnnw. Rwy’n gwybod, o gyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf, bod ganddynt rai problemau eu hunain o ran sut y maent yn meddwl y gellid gwella’r cod. Felly, mae hon yn un agwedd benodol, ond cawn gyfle i gael trafodaeth ehangach am y cod. Rwy’n meddwl y bydd yn newid natur y drafodaeth, neu'r man lle mae awdurdodau lleol yn dechrau, ac rwy'n credu mai dyna sy’n wirioneddol bwysig o ran cyflwyno’r rhagdybiaeth honno. Fel y dywedais yn fy natganiad, nid yw hynny'n golygu na ellir cael dim newid byth. Weithiau, am resymau addysgol da iawn a chryf, mae angen newid arnom, ond o leiaf byddwn yn dechrau o'r pwynt penodol hwnnw, a bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi ystyried yn briodol ddewisiadau eraill i gynnal addysg yn yr ardaloedd hynny.
O ran lleoedd dros ben, byddwch yn ymwybodol bod y cytundeb rhyngof fi a'r Prif Weinidog—y cytundeb blaengar a ddaeth â mi i mewn i Lywodraeth—yn cyfeirio'n benodol at leoedd gwag. Mae hyn yn broblem mewn ardaloedd gwledig, ond mae'n rhaid imi ddweud nad dim mewn ardaloedd gwledig yn unig y mae hyn yn broblem. Os bydd rhywun yn edrych ar ychydig o’r profiad mewn rhannau eraill, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gyflym iawn i gymryd lleoedd dros ben allan o'r system, dim ond i weld wedyn bod ganddynt newidiadau demograffig o fewn eu hardal benodol sy'n golygu, i rai pobl, ei bod yn anodd iawn cael lle yn yr ysgol sy’n lleol iddyn nhw. Felly, mewn gwirionedd, mae angen inni edrych ar leoedd dros ben yn eu cyfanrwydd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn edrych dros gyfnod ehangach, fel y gallwn ragweld yn well yr amrywiad a fydd yn anochel mewn derbyniadau posibl i ysgolion.
Rydych yn hollol iawn—ni all addysg ar ei ben ei hun ddatrys rhai o'r problemau demograffig sylweddol y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu. Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghydweithiwr Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, ym maes parthau plant, yn ogystal â'r cynnig gofal plant. Mewn rhai rhannau o Gymru wledig, Llŷr, byddwch yn gwybod, fel finnau, bod y cyfleoedd am ofal plant yn gyfyngedig iawn, iawn yn wir. Yn syml, nid yw’r farchnad yno, felly byddai gweithio ar y cyd â'r ysgolion yn gyfle perffaith i ymdrin â rhai o'r rheini. Ac wrth gwrs, mae dewis Gwynedd ac Ynys Môn fel un o'r ardaloedd treialu yn golygu y cawn y cyfle hwnnw i brofi’r cynnig gofal plant sylweddol hwn mewn ardal wledig. Nid oeddem eisiau cynnal y cynlluniau arbrofol i gyd mewn lleoliadau trefol; roeddem eisiau gallu profi’r cynigion hyn mewn ardal fwy gwledig, a dyna pam yr wyf yn falch iawn o weld Gwynedd a Môn yn rhan o'r cynllun arbrofol, i weld beth y gallwn ei wneud i weithio yn yr ardaloedd hynny. Ond mae angen gweithredu, a gwaith i bobl—swyddi cyflogedig o safon uchel mewn cymunedau gwledig. Ac yn hollbwysig i mi, mae angen i dai fforddiadwy fod ar gael; dyna un o'r rhwystrau mwyaf i rieni ifanc a theuluoedd sy'n byw yn eu cymunedau—diffyg fforddiadwyedd llwyr y tai a’r llety yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu. Mae gwir angen inni wneud cynnydd yn hynny o beth, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i adeiladu nifer sylweddol o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.
Llŷr, rwy’n cytuno y byddai mwy o arian yn ddefnyddiol bob amser, oni fyddai? Ond mae hyn yn ddechrau, i allu edrych i weld sut y gallwn ddefnyddio'r arian hwn. Byddaf yn chwilio am dystiolaeth o newid gwirioneddol, fodd bynnag. Nid busnes fel arfer yw hyn. Nid dim ond arian ychwanegol i gynnal y status quo yw hyn. Mae hwn yn arian ychwanegol i sbarduno newid gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn edrych ar wahanol fodelau. A gallai’r modelau hynny fod yn ffederasiynau a chydweithio cadarn, neu’n ffederasiynau a chydweithio meddal. Rydym yn gwybod bod gennym rai enghreifftiau o ysgolion cynradd yn gweithio mewn clystyrau, ond hoffwn weld datblygu’r swyddogaeth penaethiaid gweithredol. Gofynasoch am recriwtio a chadw staff—pam y dylai rhywun symud ymlaen? Wel, rwy'n meddwl bod y posibilrwydd o fod yn bennaeth gweithredol mewn cymuned wledig yn gyffrous iawn i ddarpar arweinydd ysgol ifanc ac uchelgeisiol. Felly, mae’r gwahanol fathau hynny o drefniadau yn un o'r ffyrdd y byddwn yn denu pobl i fod yn arweinwyr ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Hoffwn weld mwy o bobl yn ystyried y syniad o ffederasiwn rhwng uwchradd a chynradd. Yn aml, ystyrir ffederasiynau yng nghyd-destun un grŵp oedran penodol yn unig. Beth am edrych ar ffederasiynau ar draws ardal gymunedol benodol—rhywbeth sy'n digwydd mewn gwirionedd ar Ynysoedd Sili, er enghraifft, fel enghraifft yn y fan yna?
O ran cludiant, yn amlwg mater i fy nghydweithiwr Cabinet, y Gweinidog trafnidiaeth, yw hwn. Mae'r rheolau’n eithaf clir: os yw plentyn yn byw bellter penodol o’i ysgol, mae ganddo hawl i gael cludiant i'w ysgol addas agosaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar draws adrannau i edrych ar y materion sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn ei gyfanrwydd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Gwn am eich ymrwymiad i ysgolion gwledig. Rwy’n gwybod y byddech yn arfer brwydro’n angerddol fel aelod o'r wrthblaid ar ran ysgolion ym Mhowys a oedd dan fygythiad o gau gan yr awdurdod lleol hwnnw, ac, wrth gwrs, roedd llawer o Aelodau Cynulliad eraill sy'n cynrychioli etholaethau gwledig yn y Siambr hon yn gwneud hynny gyda chi. Fel eich etholaeth chi, mae fy etholaeth innau hefyd wedi gweld nifer o ysgolion gwledig yn cau yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae rhai, yn anffodus, yn dal i fod dan fygythiad o gau. Felly, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith eich bod wedi dweud y bydd gennym nawr, yn y dyfodol, ragdybiaeth yn erbyn cau ac y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol edrych ar bob dewis arall a throi pob carreg wrth edrych ar y ffordd y mae eu hysgolion wedi’u trefnu. Yn rhy aml, mewn rhai rhannau o Gymru, mae awdurdodau lleol wedi bod yn ystyfnig o ganlyniad i'r canllawiau gwael, a dweud y gwir, gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu galluogi i wneud hynny, ac, o ganlyniad, mae rhai ysgolion da iawn wedi cau. Felly, mae wedi bod yn daith eithaf garw i ysgolion gwledig yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hynny'n newid.
Nawr, nid yw hynny’n golygu nad oes rhai cwestiynau yr wyf yn gobeithio y gallwch eu hateb heddiw ynglŷn â'r adnodd ychwanegol hwn yr ydych yn ei ddarparu. Rwyf wedi gweld y rhestr o bethau yr ydych yn gobeithio eu cyflawni gyda’r adnodd hwnnw. Gyda phob parch, nid yw £2.5 miliwn yn swm enfawr o arian i allu cyflawni’r holl ddyheadau ar y rhestr benodol honno. Tybed a allwch chi roi rhywfaint o eglurder inni ynghylch a yw hynny'n £2.5 miliwn ychwanegol ar ben eich cyllideb a fydd ar gael y flwyddyn nesaf, ynteu a yw hyn yn dod oddi mewn y gyllideb addysg yn ei chyfanrwydd ac y bydd yn golygu eich bod yn dwyn o'r naill law, mewn gwirionedd, i dalu’r llall, a hefyd, beth yn union yw eich diffiniad o ysgol wledig neu ysgol fach mewn gwirionedd. Oherwydd, yn amlwg, dyna fydd yn penderfynu i raddau helaeth i ble y bydd yr arian hwn yn llifo. Rydych yn ei roi i'r consortia rhanbarthol yn hytrach na'r awdurdodau addysg lleol i’w ddosbarthu. Os gallwch egluro pam yn union y mae hynny'n wir, byddai hynny hefyd yn ddefnyddiol.
Er fy mod yn derbyn y gall ffedereiddio fod yn fodel effeithiol iawn, ac, yn wir, mae'n rhywbeth sy’n gweithio ar gyfer ysgol a oedd dan fygythiad ac sy’n dal i fod dan fygythiad o gau yn fy etholaeth i—Ysgol Llanbedr—sydd bellach yn gweithio gydag ysgol arall, yn groes i ddymuniadau'r awdurdod lleol, er mwyn goroesi, ac mae'n gwneud gwaith da iawn o hynny, ac mae niferoedd y disgyblion yn cynyddu. Ond, pe gallech ddweud wrthym sut yn union y bydd yr arian hwn yn cefnogi ffederasiynau, o gofio bod ffederasiynau mewn gwirionedd yn gyffredinol yn arwain at arbed symiau sylweddol o arian—ai dim ond arian i roi cychwyn ar bethau yw hwn, a yw’r rhain yn drefniadau tymor hir, ynteu ai cronfa tymor byr yw hon lle bydd cyfnod pan fydd y grantiau untro hyn ar gael i ysgolion ac yna y bydd y cyfnod hwnnw yn y pen draw’n dod i ben? Felly, rwyf yn croesawu'r arian ychwanegol, rwy’n croesawu’r datganiad ac rwy’n croesawu'r cyfeiriad teithio, ond rwy’n meddwl bod llawer yn dibynnu ar y diffiniadau hyn o ran beth yn union yw ysgol wledig neu ysgol fach. Rwy’n meddwl bod llawer yn dibynnu ar sut y caiff yr arian ei ddefnyddio a pha mor denau y caiff y jam hwnnw ei daenu ar draws y cannoedd o ysgolion gwledig sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, efallai y gallwch roi rhywfaint o eglurder ar y pethau hynny ni.
Diolch yn fawr iawn, Darren, am y croeso i’r datganiad. I ddechrau, fel y dywedais wrth Llyr ynglŷn â’r rhagdybiaeth o gau, rwy’n gobeithio wir y bydd hynny’n symud man cychwyn y sgyrsiau hyn—yn hytrach na bod cau y dewis cyntaf ar y rhestr, ac yn hytrach na'r dewis olaf ar y rhestr. Ond rwy’n gobeithio, yn ogystal, drwy'r ymgynghoriad ar y cod, y gallwn edrych ar ffyrdd y gallwn gryfhau'r ymarfer ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod llawer o bobl yn gweld nad yw’r ymarfer ymgynghori presennol mor gryf ag yr hoffent iddo fod, ac mae cyfle i gryfhau hynny ar gyfer pob ysgol, a dweud y gwir, a sut y mae’r system yn ymdrin â phob ysgol.
Gadewch imi fod yn gwbl glir, ac eglurais hyn i'ch cydweithiwr Mohammad Asghar yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, a oedd yn garedig iawn—na, Andrew, a dweud y gwir, oedd yn dirprwyo yn ei absenoldeb. Gadewch inni fod yn gwbl glir, mae'r MEG addysg wedi cynyddu 3.5 y cant. Mae £53 miliwn ychwanegol yn mynd i mewn i fy mhortffolio i yn y cylch cyllideb hwn, sydd wedi fy ngalluogi i flaenoriaethu a chyflwyno mentrau newydd. Mae'r dyraniad o £2.5 miliwn ar gyfer cefnogi amrywiaeth o gynigion penodol sy’n cael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol ynglŷn â sut y byddant yn defnyddio'r arian hwnnw i gefnogi darpariaeth addysgol yn eu hardal benodol i godi safonau. Ochr yn ochr â hynny, bydd cyfle i ysgolion gwledig hefyd fanteisio ar gyllid sydd ar gael gennym ar gyfer arweinyddiaeth a chyllid a fydd ar gael gennym ar gyfer ffederasiynau a chydweithio agosach rhwng ysgolion sy’n gweithio yn ein system ysgolion hunan-wella. Byddaf eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl arian hwnnw’n cael ei wario yn y rheng flaen, i sbarduno gwelliannau a safonau yn ein haddysg i'n plant gwledig. Nid wyf yn disgwyl i'r arian hwnnw fod yn eistedd mewn neuaddau sir neu mewn swyddfeydd consortia rhanbarthol.
Mae hwn yn gyfle i godi safonau yng Nghymru wledig a rhoi sylw i’r heriau penodol iawn sy’n gysylltiedig â hynny: yr her o fod yn bennaeth â llwyth gwaith addysgu uchel, a sut yr ydych yn rheoli hynny; beth y gallwn ei wneud i ddatblygu swyddogaeth rheolwyr busnes ar draws ystod o ysgolion; heriau real iawn gweithlu sefydlog nad yw'n cael y cyfle i fynd allan a dysgu oddi wrth ysgolion eraill; y cwestiwn, mewn ysgol wledig, os oes gennych chi weithlu bach, yw sut y gallwch fod â’r arbenigedd i wneud yn siŵr bod eich cynllunio cwricwlwm a’ch adnoddau mor eang ag y gallent fod. Felly, rwyf wedi nodi rhai syniadau o sut yr wyf yn disgwyl i'r arian greu y newid, ond os daw ysgolion ac AALlau ataf â ffyrdd radical eraill sy'n dangos sut y byddent yn gwella cyrhaeddiad ar gyfer ein plant, rwy'n barod i’w hystyried. Ond, y peth hanfodol i mi yw mai fy nisgwyliad yw bod yr arian hwn yn cyrraedd y rheng flaen ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r plant hynny.
O ran diffiniad, nid oes gennym un, Darren. Mae hynny'n rhan o'r broblem, a byddwn yn gweithio ar sut yn union y gallwn gael diffiniad cadarn. Ar hyn o bryd, mae gan Swyddfa Archwilio Cymru ffigurau y byddwn yn eu hystyried, yng nghyd-destun fy etholaeth fy hun, fel bod yn ysgolion mawr. Felly, mae angen inni gydweithio'n agos i allu cytuno ar y diffiniad hwnnw.
Ond, fel y dywedais, yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw na ddylai pobl ystyried mai’r status quo yw hyn. Mae hyn yn rhan benodol o'n hymrwymiad cyffredinol i godi safonau ledled Cymru, ac mae rhai heriau penodol o ran sut yr ydym yn cyflawni hynny yn rhai o'n cymunedau mwy trefol, ac mae heriau penodol o ran sut yr ydym yn cyflawni hynny mewn cymunedau gwledig, a bydd hyn, rwy’n gobeithio, yn rhan o'r ateb, yn rhan o'n cenhadaeth genedlaethol gyffredinol.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cau ysgolion, a hyd yn oed y bygythiad o gau ysgolion, yn achosi rhaniadau o fewn cymunedau gwledig a rhyngddynt, yn enwedig pan fo cystadleuaeth rhwng disgyblion am leoedd mewn ysgol. Pan fydd yr ysgol yn cau, mae’r ardal yn colli adnodd cymdeithasol a diwylliannol a man cyfarfod ffisegol i aelodau'r pwyllgor. Mae'r ysgol leol yn gweithredu fel cyflogwr ac fel defnyddiwr yn yr ardal leol, ac mae rhai astudiaethau yn nodi bod rhieni'n teimlo’n llai tueddol i gyfrannu mewn ysgol newydd, fwy os yw eu hysgol leol yn cau. Gall ysgolion bach, gwledig greu manteision penodol i fyfyrwyr, fel dosbarthiadau llai ac ethos cymunedol.
Beth sy’n digwydd i'r ysgolion sy’n cael eu cau? Mae'r awdurdod lleol yn gwneud elw drwy gau'r ysgol a gwerthu’r tir i’w ddatblygu, ac ar yr un pryd, yn chwalu rhan bwysig o fywyd y gymuned. Yn ogystal, caiff barn y rhieni ei hanwybyddu neu ei diystyru i raddau helaeth. Dywedodd papur bro yn fy ardal i fod rhieni wedi cael eu syfrdanu gan y penderfyniad i gau Ysgol Maes Edwin ar fynydd Fflint. Nid oedd hyd yn oed AS Llafur lleol yr ardal, David Hanson, o blaid cau’r ysgol. Siaradodd Mr Hanson yn benodol am sut y mae datblygiadau tai newydd yn yr ardal, fel Croes Atti, datblygiad o 100 a mwy o dai o fewn dalgylch yr ysgol, yn golygu na fyddai'n iawn i gau'r ysgol, gan y gallai fod angen lleoedd ysgol ar blant y bobl a fydd yn symud i mewn i’r tai newydd hynny. Dylai'r awdurdod lleol wrando arno ef, efallai.
Rwy'n croesawu'r uchelgais y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi’i ddatgan ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig. Fodd bynnag, byddai wedi bod yn llawer gwell gennyf i weld ymrwymiad llawn ganddi, yn ogystal ag addewid i ddefnyddio adnoddau’n briodol, i gefnogi cadw ysgolion gwledig ac ysgolion bach ar agor a gwrthdroi penderfyniadau diweddar i gau ysgolion bach yn fy rhanbarth i, er enghraifft, yr ysgol ar fynydd Fflint. Diolch.
Lywydd, hoffwn ddiolch i Michelle Brown am ei chyfraniad. Mae hi'n gwneud pwynt gwerthfawr ynglŷn â phwysigrwydd yr adeilad ffisegol yn aml mewn cymuned, a dyna pam, fel y cyhoeddais yn fy natganiad, yr wyf yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod cymunedau’n defnyddio mwy ar adeiladau ysgol fel ffordd o gynnal rhan o wead bywyd yng nghefn gwlad Cymru. Ond, gadewch inni fod yn glir, mae ysgolion eisoes yn gwneud hyn yn effeithiol iawn. Mae ysgolion yn fy etholaeth i fy hun wedi camu i’r adwy ac wedi cymryd awenau’r gwaith o gynnal cyfleusterau chwaraeon a fyddai wedi cael eu colli yn y gymuned. Mae ysgolion yn ymwneud ar hyn o bryd, er enghraifft, â chymryd cyfrifoldeb am gyfleusterau llyfrgell a fyddai wedi cael eu colli i'r gymuned, a hoffwn annog defnyddio mwy ar adeiladau ysgol fel ased gwirioneddol i'r bobl sy'n byw yn yr ardal benodol honno.
Mae’r Aelod hefyd yn gwneud pwynt gwerthfawr ynglŷn â’r economi. Hwn oedd y pwynt a wnaeth aelodau, ac aelod arweiniol, Cyngor Gwynedd imi pan gyfarfûm â hwy fore Gwener. Roedden nhw’n cydnabod hynny. Dyna pam maen nhw’n edrych arnynt eu hunain, ac ar gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, i ddod o hyd i ffyrdd arloesol y gallant ei mabwysiadu i gynnal lleoliadau addysg mewn amrywiaeth eang o gymunedau, oherwydd maent yn cydnabod yr union bwynt hwnnw a’u cyfrifoldeb cyffredinol.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau cyn bo hir. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn awyddus i gymryd rhan lawn ynddo, ond mae’n rhaid imi ddweud nad wyf ar hyn o bryd yn bwriadu edrych eto ar unrhyw benderfyniadau a wnaethpwyd yn flaenorol.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Yn enwedig, croesawaf yn fawr yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am ddarparu arian i annog a chefnogi datblygiad ffederasiynau ar draws pob ysgol a gynhelir, ynghyd â gwell gwybodaeth ac arweiniad. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Rydych yn ymwybodol o fy mhryderon ynghylch y mater hwn.
Hefyd, roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedasoch am yr ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion fel cyfle i'r holl bartïon dan sylw i gyfrannu. Fel y gwyddoch, nid dim ond ysgolion gwledig sy'n gweld cau ysgolion yn fater anodd iawn. Mae pob ysgol, yn fy mhrofiad i, yn tueddu i fod wrth galon eu cymuned, ac rwy’n gwybod eich bod yn ymwybodol bod gennyf rai pryderon ynghylch y cod trefniadaeth ysgolion. Rwy'n credu ei bod yn bendant yn bryd ei adolygu, a hoffwn ofyn sut yr ydych yn gweld y broses honno yn mynd yn ei blaen, ac yn benodol, sut y byddwch yn sicrhau bod rhieni a chymunedau’n cael llais yn y diwygiadau yr ydych yn edrych arnynt.
Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau? Rwy’n gobeithio nad wyf yn datgelu gormod o gyfrinach wrth ddweud y byddai Lynne a mi, yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad, yn anfon negeseuon ar draws y Siambr am yr union bwnc hwn, sef ein rhwystredigaethau â'r cod trefniadaeth ysgolion.
Rwy’n meddwl ei bod yn amserol, dair blynedd ar ôl ei sefydlu, i adolygu ei effeithiolrwydd. Rwyf yn arbennig o awyddus i edrych ar sut y gallwn ei newid i edrych ar egwyddor y rhagdybiaeth yn erbyn cau, ond rwy’n gwybod bod rhwystredigaethau ar draws y Siambr, gan Aelodau Cynulliad sy'n cynrychioli pob gwahanol fath o gymunedau, ynghylch pa un a yw mor gadarn ag y gall fod. Rwy’n gobeithio y gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd, oherwydd mae’r Aelod yn llygad ei le: mae ysgolion yn bwysig, beth bynnag yw natur y gymuned. Rwy'n ymwybodol bod yr ysgolion mewn rhai cymunedau ym mhen uchaf y Cymoedd yn ôl pob tebyg yr un mor anghysbell â rhai o'r ysgolion yr wyf i’n gwybod amdanynt ac yn hoff iawn ohonynt. Felly, mae angen inni edrych ar hyn mewn ffordd gyfannol, ac yn sicr nid yw hyn yn gosod safon wahanol ar gyfer un math o ysgol o gymharu ag un arall.
Mae’r Aelod yn iawn am sut y gallwn ymgysylltu â rhieni a chymunedau. Byddaf yn defnyddio'r ystod lawn o beiriannau cyhoeddusrwydd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Rwy’n gobeithio ein bod wedi cael dechrau da heddiw o ran rhoi cyhoeddusrwydd i hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r cyfryngau am dynnu sylw at y datganiad y prynhawn yma, ond byddaf yn dibynnu ar Aelodau'r Cynulliad eu hunain, mewn gwirionedd—byddwn yn ddiolchgar iawn i Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr pe bydden nhw eu hunain yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn sicrhau bod yr ymgynghoriad ar gael yn eang i bobl y maent yn gwybod bod ganddynt ddiddordeb yn y mater penodol hwn. Po fwyaf o leisiau y gallwn eu clywed, y mwyaf y cyfleoedd y bydd gennym i sicrhau cod sefydliad priodol sydd wir yn adlewyrchu pryderon y bobl yr ydym i gyd yn eu cynrychioli.
Fel y dywedwch, gall ysgolion bach ac ysgolion gwledig ddarparu manteision academaidd, diwylliannol a chymdeithasol gwirioneddol. Pan alwais ar Lywodraeth flaenorol Cymru i ymateb i bryderon bod Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio data hen ac anghywir ac yn gweithredu’n groes i'r cod trefniadaeth ysgolion ynglŷn â chynigion i gau nifer o ysgolion yno, gan gynnwys ysgolion bach ac ysgolion gwledig, Ysgol Gynradd Sirol Llanfynydd ac Ysgol Maes Edwin ar fynydd y Fflint, y cyfeiriwyd ati’n gynharach, dywedodd eich rhagflaenydd, ni allaf roi sylwadau ... o ran y cod trefniadaeth ysgolion a'r canllawiau, oherwydd, wrth gwrs, gallai hyn ddod gerbron Gweinidogion Cymru.
Wrth gwrs, yng nghyd-destun ysgolion bach ac ysgolion gwledig, nid oedd hynny wedi bod yn wir ers 2013. Nawr, er bod yn rhaid i gynghorwyr gadw at dystiolaeth faterol sy’n berthnasol i'r cod trefniadaeth ysgolion a chywirdeb y data a ddefnyddir gan gabinet y cyngor fel sail i'w penderfyniad i argymell cau ysgolion, pan ddaeth y cynigion cau hyn i'r cyngor, nid oedd y sylwadau hynod wleidyddol gan arweinydd y cyngor yn berthnasol i'r materion y mae'n rhaid i'r cyngor eu hystyried, ac roedd yr arfer hwn o sgorio pwyntiau gwleidyddol ar y ddau achlysur yn codi pryderon difrifol ynghylch ar ba sail y gwnaeth ei gabinet eu penderfyniadau.
Rydych yn dweud nad ydych yn mynd i edrych eto ar benderfyniadau a wnaethpwyd yn flaenorol. A yw hynny, felly, yn golygu eich bod yn bolltio drws y stabl ar ôl i Lywodraeth flaenorol Cymru a'r Prif Weinidog presennol adael i'r ceffylau ddianc, neu, o dan amgylchiadau fel hyn, a wnewch chi ailystyried y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau cau i aelodau ac i'r cyhoedd, yng nghyd-destun yr hyn a oedd yn ofynnol gan y cod trefniadaeth ysgolion mewn gwirionedd?
Mark, roeddwn i’n meddwl fy mod wedi ei gwneud yn gwbl glir wrth ateb Michelle Brown nad wyf yn fodlon ailagor achosion sydd wedi eu gweithredu eisoes. Mark, ni allaf ond bod yn gyfrifol am y sefyllfa yr wyf ynddi nawr. Nid yw hyn yn fater o gau drws y stabl ar ôl i'r ceffyl ddianc. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i gydnabod yr heriau penodol o ddarparu addysg mewn ardal wledig a'r rhwystrau a all ei gwneud yn anoddach i’r addysg honno gyflawni rhagoriaeth absoliwt, ac rwy’n benderfynol o wneud hynny. Mae'n ddrwg gennyf eich bod yn teimlo bod y polisi hwn—. Yn wahanol i’ch llefarydd addysg, sy’n gweld rhinwedd yn yr hyn yr wyf yn ei wneud, mae'n ddrwg gennyf nad ydych wedi gallu rhannu’r brwdfrydedd hwnnw.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.