Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau 1 a 2 yn enw Plaid Cymru. Rwyf am ddechrau drwy longyfarch y comisiynydd plant, nid yn unig am yr adroddiad blynyddol, ond am ei gwaith yn ystod y flwyddyn sydd wedi mynd heibio. Rwy’n gwybod, wrth gwrs, fod y gwaith hwnnw wedi’i osod ar seiliau cadarn yn dilyn yr ymgynghoriad ‘Beth Nesa?’ a gynhaliwyd—yr ymgynghoriad mwyaf erioed gyda phlant a phobl ifanc gan swyddfa’r comisiynydd, gyda dros 7,000 o ymatebion, a hynny, felly, wrth gwrs, yn sylfaen gref iawn ar gyfer adnabod y blaenoriaethau, cynllunio rhaglen waith ac, wrth gwrs, gyrru rhai o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad.
Mae’r gwelliant cyntaf wedi’i osod yn syml iawn nid am nad wyf yn hapus i nodi adroddiad blynyddol y comisiynydd—wrth gwrs fy mod i’n hapus—ond rwyf jest ddim yn teimlo bod nodi yn ddigon. Nid yw fel pe bai’n gwneud cyfiawnder â’r argymhellion sydd yn yr adroddiad. Rwy’n teimlo y byddai’n fuddiol i ni anfon neges gryfach i adlewyrchu pa mor benderfynol yr ŷm ni mewn gwirionedd i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi cael eu hamlygu yn yr adroddiad yma.
Felly, yn ogystal â’i nodi, fel y mae’r gwelliant cyntaf yn ei awgrymu, rwy’n cynnig y dylem ni benderfynu gweithredu ar yr argymhellion hynny—ei fod yn ddatganiad clir o gefnogaeth, yn bleidlais glir o hyder yn ein comisiynydd plant a’i fod yn ddatganiad ein bod ni yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda hi a chyda phlant a phobl ifanc Cymru, drwy beidio â bodloni jest i gydnabod bod yna broblemau ond i fod yn fwy bwriadol a rhoi mwy o bwys ar ymrwymo i fynd i’r afael â’r problemau hynny. Ond rwyf yn clywed beth mae’r Ysgrifennydd yn ei ddweud, wrth gwrs: mi fydd y Llywodraeth yn ymateb. Rwyf jest yn teimlo y byddai’r neges sy’n mynd o fan hyn y prynhawn yma lawer yn gryfach petaem yn derbyn y gwelliant.
Wrth gwrs, rŷm ni yn croesawu’r targedau uchelgeisiol newydd ar gyfer gofal iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ond fel mae’r comisiynydd yn ei ddweud, mae’n ddarlun anghyson iawn ar draws Cymru. Mae yna rai ardaloedd wedi llwyddo i leihau amserau yn sylweddol iawn, gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un ohonyn nhw, wrth gwrs, ac wedi mynd lawr o 550 yn aros i 82 o bobl ifanc eleni—y gostyngiad mwyaf dramatig, efallai, yr ŷm ni wedi ei weld yng Nghymru. Ond wedyn rŷm ni’n edrych ar y ffigurau yn rhywle fel Abertawe Bro Morgannwg, ac rŷm ni’n gweld cynnydd yn y nifer sy’n aros, i fyny i 630 o blant yn aros i gael eu gweld gan y gwasanaethau CAMHS—dros 200 ohonyn nhw, wrth gwrs, yn aros dros 14 wythnos. Mae’r ffigurau yna yn wahanol iawn i wasanaethau meddwl oedolion, lle mae’r niferoedd sy’n aros yn llawer, llawer is ymhob bwrdd iechyd. Felly, mae’r cynnydd wedi bod yn araf mewn rhai ardaloedd ac yn anghyson beth bynnag ar draws Cymru, ac rwyf yn teimlo bod angen datganiad cryfach o fwriad i weithredu i fynd i’r afael â hynny.
Mae pwysigrwydd wedyn, wrth gwrs, eiriolaeth a galluogi plant sy’n derbyn gofal i gael mynediad i eiriolwyr annibynnol yn fater allweddol, yn enwedig ers i ymchwiliad Waterhouse ganfod nad oedd neb wedi credu y rhai a oedd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ac yn gorfforol dros ddegawdau mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru, ac nad oedd neb wedi gwrando arnyn nhw, i bob pwrpas. Mi siaradodd y comisiynydd plant blaenorol am ei rwystredigaeth ynghylch yr ymateb araf cychwynnol i argymhellion yr oedd e wedi eu gwneud am eiriolaeth annibynnol yn ei adroddiad ‘Lleisiau Coll’ a’r adroddiad a ddaeth yn sgil hynny, ‘Lleisiau Coll: Cynnydd Coll’. Mae’r angen i weithredu yr ‘approach’ cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol i blant a phobl ifanc yn destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fan hyn yn y Cynulliad ar hyn o bryd. Ac rydym yn dal i aros am gadarnhad ynghylch a fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithredu model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol i gyd-fynd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yn olaf, ac mae hyn yn rhywbeth rwy wedi ei godi gyda’r Prif Weinidog cyn heddiw, nid oes gofyniad cyfreithiol i rieni i gofrestru gyda’r awdurdod lleol os ydyn nhw’n addysgu eu plentyn yn y cartref, nac unrhyw ofyniad ar awdurdodau lleol i fonitro neu archwilio’r ddarpariaeth dysgu yn y cartref chwaith. Nid yw hynny yn dderbyniol, yn fy marn i. Yn ei hadroddiad, mae’r comisiynydd yn codi’r mater yng nghyd-destun marwolaeth Dylan Seabridge. Mi gafodd e ei addysgu yn y cartref, a chafodd e ddim cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y saith mlynedd cyn iddo fe farw. Rwy’n deall y consyrn ymhlith nifer o bobl fod yna berygl i ni bardduo pawb drwy geisio mynd i’r afael â delio â’r risg yna, ond tra bod yna elfen o risg i un plentyn yng Nghymru, nid wyf yn meddwl ei fod yn or-ymateb i ni fynd ymhellach na’r hyn rydym wedi ei weld yn digwydd hyd yn hyn. Ac nid yw hi’n dderbyniol, yn fy marn i, fod y sefyllfa bresennol yn parhau. Mae angen mynd i’r afael â hyn ar fyrder.
Mae’r ail welliant, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr angen i drosglwyddo cyfrifoldeb am y comisiynydd plant o’r Llywodraeth i’r Cynulliad. Mae hwn yn fater sydd wedi cael ei wyntyllu yn y cyd-destun yma a chyd-destun comisiynwyr eraill yn y gorffennol. Rwy’n teimlo bod y dadleuon fel y’u cyflwynwyd nhw bryd hynny yr un mor ddilys heddiw, ac rwy’n meddwl y byddai’n ddymunol iawn i’r Cynulliad gefnogi y gwelliant hwnnw. Dyna hefyd, wrth gwrs, yw barn y comisiynydd ei hun, ac mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio hynny yn y drafodaeth yma.