Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, Weinidog, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw yn amser y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod bob amser yn ddefnyddiol iawn i ni fel Cynulliad Cenedlaethol fyfyrio ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a'r gwaith rhagorol y mae hi a'i thîm yn ei wneud ledled Cymru gyfan. Rwyf am gofnodi fy niolch iddi am ymweld â’r gogledd yn rheolaidd, gan gynnwys lleoedd yn fy etholaeth i, i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yno.
Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried yr amryfal argymhellion yn adroddiad y comisiynydd, ac rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi tynnu sylw at nifer ohonynt yn y gwelliannau y maent wedi'u cyflwyno. Rwy’n cefnogi’n llwyr eu galwadau am fwy o bwyslais gan y Llywodraeth ar ymdrin â rhai o'r amseroedd aros ofnadwy ar gyfer mynediad at ofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni hanner ffordd drwy raglen sydd i fod i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir hyn, ac eto mae’r amseroedd aros hynny yn union yr un fath ar hyn o bryd ag yr oeddynt ar ddechrau'r rhaglen. Mae rhai newidiadau wedi bod mewn rhai rhannau o'r wlad, ond, yn anffodus, maen nhw'n parhau’n rhy hir. A dweud y gwir, nid yw'n ddigon da ein bod ni'n trin ein plant a’n pobl ifanc fel dinasyddion eilradd pan ddaw i gael mynediad at rai o'r gwasanaethau pwysig iawn hyn. Mae’n fantais i mi, yn fy etholaeth i, bod gennym uned CAMHS flaenllaw yn Abergele, wrth ymyl yr ysbyty yno, ac mae'n drasiedi mawr i mi nad yw’r uned honno’n llawn—nid yw pob un o'r gwelyau yn cael eu defnyddio—ac eto mae pobl ifanc o’r gogledd yn cael eu hanfon allan o'r wlad er mwyn defnyddio gwasanaethau filltiroedd lawer i ffwrdd o’u rhwydwaith cymorth. Felly, mae angen mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny, ac rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi cyflwyno’r gwelliant hwnnw.
Rwy’n nodi hefyd, wrth gwrs, y sgwrs sydd wedi bod yn digwydd ynghylch marwolaeth Dylan Seabridge, ac rwy’n nodi ymateb y Llywodraeth i hynny yn gynharach eleni ac, yn wir, y sylwadau a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw am ei ddull o fwrw ymlaen â pheth o'r hyn a ddysgwyd o'r achos trasig iawn, iawn hwnnw. Credaf fod dull y Llywodraeth yn briodol yma o ran symud ymlaen yn ofalus heb neidio i gasgliad bod angen cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet, heb os, yn gyfarwydd â'r ffaith bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu hymchwilio gan y gwasanaethau cymdeithasol na phlant ysgol neu blant o dan bump oed, ac eto hanner mor debygol o gael eu gosod ar gynllun amddiffyn plant. Felly, mae'n arwydd clir ei bod yn ymddangos bod llai o risg yn gysylltiedig â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref, ac nid mwy o risg, sef yr hyn y mae’n ymddangos y mae Plaid Cymru yn ei honni. Felly, gadewch i ni beidio ag ymateb yn ddifeddwl. Credaf mai dull gofalus y Llywodraeth yw'r un cywir, ac ar y mater penodol hwnnw, nid yw'n rhywbeth yr wyf yn cytuno ag ef o ran un o'r argymhellion a nodwyd, mewn gwirionedd, gan y comisiynydd plant.
Rydym yn gwybod hefyd, wrth gwrs, yn enwedig yn achos Dylan Seabridge, bod y teulu hwn yn hysbys i'r awdurdodau statudol; roeddynt yn hysbys i'r gweithwyr proffesiynol mewn gwahanol sefydliadau, a gwnaeth chwythwr chwiban gysylltu â'r awdurdod lleol i fynegi pryderon am y teulu, ac ni wnaeth y pethau hyn sbarduno, yn fy marn i, yr ymatebion priodol gan yr awdurdodau. Felly, nid ydym yn gwybod beth fyddai'r canlyniad pe byddai pethau wedi eu trin yn wahanol, ond rwy’n amau’n fawr iawn y byddai rhywbeth mor syml â chael cofrestr orfodol wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Rwyf i hefyd yn rhannu dyhead Plaid Cymru, fodd bynnag, ynghylch yr angen i sicrhau bod y comisiynydd plant yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae gennym nifer o swyddi comisiynwyr yma yng Nghymru, erbyn hyn, yn ogystal â chorfforaethau undyn eraill, fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac mae’r holl ddulliau o’u penodi yn anghyson. Ni all hynny fod yn iawn. Mae angen i ni gael mwy o gysondeb ynglŷn â’r mathau hyn o swyddi, ac felly, byddwn yn falch pe byddai’r Llywodraeth yn defnyddio dull gwahanol o benodi’r comisiynydd plant. Gwn o sgyrsiau blaenorol gyda’r Llywodraeth bod yna awydd i gael mwy o gysondeb, ond am ryw reswm, mae'n ymddangos nad oes neb yn symud ymlaen, mewn gwirionedd, i wneud unrhyw newidiadau. Felly, byddwn ni’n cefnogi gwelliant 2 a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar y mater hwnnw.
Ond mae'n bwysig ein bod ni’n cael y sgwrs hon. Rwy'n ddiolchgar i'r comisiynydd plant am y gwaith y mae'n ei wneud. Mae llawer o argymhellion yn y ddogfen hon. Rwyf wedi tynnu sylw at yr ychydig ohonynt y mae gennym yr amser i’w trafod y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio'n fawr y bydd ei phwerau hi hefyd, yn rhan o unrhyw adolygiad, yn cael eu hymestyn, fel bod ganddi ddannedd mwy i frathu pobl â nhw os yw’n angenrheidiol.