Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Mae eich cyhoeddiad eich bod yn ystyried peidio â pharhau â Cymunedau yn Gyntaf wedi peri cryn ofid, wrth gwrs, yn enwedig mewn canolfannau cymunedol nad ydynt ar hyn o bryd yn darparu Cymunedau am Waith neu’r rhaglen Esgyn neu raglenni eraill rydych wedi datgan y byddant yn parhau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl tybed a allwch gynnig rhywfaint o sicrwydd, yn y broses o ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer datblygu cymunedol yng Nghymru, y bydd rôl y canolfannau cymunedol sydd yn y sefyllfa honno yn cael ei hystyried yn ofalus, o ystyried eu bod yn darparu gwasanaethau gwerthfawr iawn sy’n hynod o bwysig i gymunedau lleol ledled Cymru.