Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Rwy’n ddiolchgar am y nifer o drafodaethau rwyf wedi eu cael gyda’r Aelod, ac yn wir, gyda Jayne Bryant, yr Aelod sy’n gymydog iddo, yn enwedig mewn perthynas â Chasnewydd. Ni allaf ymrwymo i ddyfodol unrhyw raglen, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn, ac rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad, y byddaf yn gwneud penderfyniad yn ystod y mis nesaf, a fydd yn seiliedig ar gyngor da. Y peth gyda Cymunedau yn Gyntaf yw mai rhaglen trechu tlodi yw hi, felly mae’n rhaid i ni asesu’r effaith yn ofalus, a lle y mae’n cyffwrdd â meysydd eraill hefyd, fel Cymunedau am Waith a’r rhaglen Esgyn. Rwy’n awyddus iawn i allu cyflwyno rhaglen cymunedau cryf wrth i ni symud ymlaen, ac nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i wneud y penderfyniad hwnnw. Fodd bynnag, rwyf wedi nodi sylwadau’r Aelod, y trafodaethau cadarn rydym wedi’u cael, a’r sylwadau y mae wedi’u gwneud, a byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny wrth i ni symud ymlaen.