<p>Hyrwyddo Rhianta Cadarnhaol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:07, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod fy mod yn dadlau’n gryf dros rianta cadarnhaol, yn arbennig o ystyried yr hyn rwy’n credu sy’n gynlluniau cynamserol gan eich Llywodraeth i wahardd smacio a throseddoli rhieni. Fodd bynnag, nodaf eich bod chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gwasanaeth rhianta cadarnhaol yn rhywbeth a ddylai fod ar gael i bob rhiant sydd ei angen. Yn anffodus, fodd bynnag, er gwaethaf eich ymdrechion, nid yw hynny’n wir. Cynhaliwyd tua 3,000 o gyrsiau rhianta cadarnhaol dros y 15 mis hyd at fis Mehefin 2016. Roedd traean o’r rheini yng Nghaerdydd, ac mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, gan gynnwys Conwy, ni chafwyd yr un. Pa gamau rydych yn eu cymryd i wneud yn siŵr fod mynediad teg at wasanaethau rhianta cadarnhaol ar gyfer pob rhiant drwy’r wlad?