Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Wel, rwy’n gweithio gyda fy nhîm yn awr i gyflwyno cam nesaf rhianta cadarnhaol. Rwy’n credu bod yr Aelod yn hollol gywir—mae’n rhaid i ni ymgysylltu â rhieni. Nid wyf wedi cael fy argyhoeddi, mewn gwirionedd, wrth i ni eistedd yma heddiw, mai ymgyrchoedd posteri neu raglenni ar wefannau yw’r ffordd orau o hyrwyddo rhianta cadarnhaol. Rwy’n credu bod yna lawer o gymorth gan gymheiriaid neu fentora drwy grwpiau cymunedol, boed yn grwpiau crefyddol mewn eglwysi, neu mewn ysgolion, neu grwpiau mam a’i phlentyn, neu grwpiau tad a’i blentyn. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gallu rhannu enghreifftiau ac mae’n ffordd lawer mwy cadarnhaol o ymgysylltu.
Y gyfres o ddulliau rwy’n edrych arni yw darparu pecyn rhianta cadarnhaol a gyflwynir drwy ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt, ac yna byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn deddfu, a gwn nad yw’r Aelod yn ffafrio hynny. Ond mae hon yn gyfres o ddulliau rhianta cadarnhaol, a byddwn yn deddfu ar ddiwedd hynny i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol.