Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Yn wir, a phwy wyf fi i ddadlau â Julie Morgan yn y maes hwn? Wrth gwrs, ni chefais wahoddiad i fynd ar daith gerdded—efallai fod hynny’n syniad da. [Chwerthin.] Ond mae’r Aelod yn hollol iawn: rwy’n credu ei fod yn ymwneud â’r ymyriadau sydd gennym gyda’n gilydd. Perthnasoedd—yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn nad yw’n gweithio’n dda, ac mae dull heb stigma o fynd ati i wella datblygiad pobl ifanc yn bwysig. Rwy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hynny, oherwydd mae’r ymgyrchoedd sydd gennym ar hyn o bryd yn cael eu gyrru gan brosesau, yn hytrach na’u bod wedi’u personoli ac yn canolbwyntio ar unigolion. Rwy’n credu bod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn.