Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 16 Tachwedd 2016.
A fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai un o’r ffyrdd gorau o gefnogi rhieni yw drwy grwpiau lle y mae rhieni’n cefnogi ei gilydd ac yn dysgu o sgiliau magu plant ei gilydd? A fuasai’n llongyfarch y sefydliadau a ffurfiwyd gan rieni i gefnogi ei gilydd, yn arbennig Rhieni Sengl Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Gingerbread, y cyfarfûm â hwy yn ddiweddar, ac sydd yno i gefnogi ei gilydd, i hyrwyddo byw’n iach, ac a fu ar daith gerdded lwyddiannus iawn o amgylch Ynys y Barri y penwythnos diwethaf?