Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch i Steffan Lewis am godi’r mater pwysig hwn ac am gyflwyno’r cynnig ger ein bron heddiw, ac rwy’n ei gefnogi’n llawn. Rwyf hefyd yn cefnogi’n llawn sylwadau’r mwyafrif o’r cyd-Aelodau sydd wedi siarad eisoes yn y ddadl hon.
Fel y dywedodd Steffan, mae’r mater yn dyddio’n ôl i 1994 pan roddodd Llywodraeth Geidwadol John Major y trefniadau newydd ar waith a fyddai’n tanysgrifennu’r golled yn y dyfodol, ac rydym eisoes wedi siarad am hynny. Yn ogystal â’r ffaith fod Llywodraeth y DU eisoes wedi mynd â’r £8 biliwn amcangyfrifedig allan o’r gronfa ers ei sefydlu, bydd glowyr sy’n bensiynwyr yn ein hatgoffa hefyd fod y Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi cymryd seibiant rhag talu cyfraniadau pensiwn am dair blynedd yn 1987. Cawsant seibiant pellach rhag talu cyfraniadau pensiwn yn 1991 a 1994, a ddarparodd £5 miliwn arall ar ben hynny i’r Llywodraeth.
Yr hyn na allwn ddianc rhagddo yw’r ffaith fod y trefniant hwn yn rhan o gytundeb a ddaeth i ben yn ôl yn 1994. Nid trafod cyfreithlondeb trefniant o’r fath a wnawn, ond a yw’n foesol gywir i’r Llywodraeth barhau i gymryd symiau mor enfawr o’r gronfa bensiwn am fod y gronfa wedi perfformio’n llawer gwell nag y gallai neb fod wedi’i ragweld yn 1994. Yn sicr, felly, mae’n iawn mai’r glowyr ddylai gael budd ohoni yn hytrach na’r Llywodraeth.
Wrth ystyried y mater hwn, fel cyd-Aelodau eraill, rwy’n meddwl am y cyfraniad a wnaeth glowyr a’u teuluoedd—gyda llawer ohonynt yn dod o fy etholaeth—i economi, hanes a threftadaeth Cymru. Rhoesant eu hunain yn llwyr, gyda llawer yn talu’r pris eithaf. Y gwaith caletaf sy’n bod, fel y dywedodd Michael Pollard yn ei lyfr, ‘Life and Death of the British Coal Miner’. Ac i beth? Er mwyn cael eu malu gan Thatcher a’i chanlynwyr yn 1985, ac mae gennyf ofn mai Neil Hamilton oedd un o’r rheini ar y pryd. Mewn fendeta yn erbyn eu hundeb, Undeb Cenedlaethol y Glowyr, neu’r ‘gelyn oddi mewn’ fel roedd hi’n well gan y Llywodraeth Dorïaidd ar y pryd eu galw, gan gynnwys Neil Hamilton.
Fel y dywedodd Hefin David, mae aberth y rhai a oedd yn gweithio yn y diwydiant glo yn parhau i lawer o lowyr y mae eu hiechyd wedi dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i weithio mewn diwydiant a oedd yn asgwrn cefn i lawer o’n cymunedau ar hyd a lled Cymru. Roedd llawer gormod ohonynt nad ydynt, o ganlyniad i’r anafiadau a ddioddefwyd wrth gloddio ein glo, erioed wedi elwa i unrhyw raddau sylweddol neu hyd yn oed o gwbl o gynllun pensiwn y glowyr. Felly, rwy’n arbennig o falch ein bod bellach yn ystyried hyn yma yn y Cynulliad gan fy mod yn gwybod bod Undeb Cenedlaethol y Glowyr yng Nghymru wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd yn mynd yn ôl i’r dyddiau cyn preifateiddio hyd yn oed, dros gael dosbarthiad tecach o’r gwargedion sy’n codi o’r cynllun. Maent wedi lobïo’n gyson am adolygiad o’r trefniant 50/50, a byddwn yn dweud eu bod yn hynny o beth wedi cael eu cefnogi’n fedrus gan yr ymddiriedolwr a etholwyd gan gynllun pensiwn y glowyr ar gyfer y rhanbarth, Mr Anthony Jones, cyn löwr yng nglofa’r Betws yn etholaeth Hefin, ac sy’n cael cefnogaeth lwyr Undeb Cenedlaethol y Glowyr de Cymru yn y rôl hon.
Ddirprwy Lywydd, defnyddiwyd y ddadl gan Lywodraethau olynol yn San Steffan fod angen y gwarged a gymerant i gynorthwyo ac i roi cymhorthdal i’r diwydiant glo. Rwy’n tybio nad oes angen argyhoeddi neb yma yn y Siambr hon ynglŷn â pha mor anghynaliadwy yw dadl o’r fath heddiw, nawr bod diwydiant glo Prydain bron iawn yn grair hanesyddol o’n gorffennol diwydiannol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn gallu cefnogi’r alwad i wneud y gorau o’r manteision sydd ar gael i’r rhai sy’n dal i allu tynnu pensiwn o’r cynllun ac y bydd yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn yn galw am adolygu’r trefniadau.