Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Mae’r ymgyrch i ddiddymu’r doll ar ail groesfan yr Hafren a chroesfan gyntaf yr Hafren, wrth gwrs, yn hirsefydlog ac yn faith dros ben, ac yn deillio o adeg ymhell cyn dyddiad yr ymgyrch UKIP y mae Gareth Bennet newydd gyfeirio ati. Yn wir, mae gwleidyddion Llafur a gwleidyddion o bleidiau eraill wedi bod rhan o’r ymgyrch hon ers blynyddoedd lawer, felly rwy’n meddwl y dylem gael hynny’n glir fel man cychwyn yn y ddadl hon.
Yr hyn yr hoffwn ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, yw bod yna lawer iawn o ymdrech ar hyn o bryd yn mynd tuag at gysylltu economïau rhanbarthol, dinas-ranbarthau, pwerdai economaidd a systemau trafnidiaeth, ac mae llawer iawn o ymdrech wedi mynd tuag at wneud hynny i ddinasoedd mawr y gorllewin a phwerdy mawr y gorllewin. Cynhyrchwyd adroddiad ar gyfer Bryste, Casnewydd a Chaerdydd, sy’n edrych ar boblogaeth o tua 1.5 miliwn ar draws yr ardal ac mae’r cyfan yn ymwneud â chysylltu a chael gwared ar rwystrau. Bydd llawer o hynny’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus; bydd yn ymwneud â system MetroWest Bryste, system metro prifddinas-ranbarth Caerdydd, felly bydd elfen fawr o hyn yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn. Ond mae hefyd yn ymwneud â chael gwared ar dollau’r Hafren, yn fy marn i, sy’n symbolaidd, fel rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod, ac fel y mae eraill wedi ei ddweud. Rydym yn anfon neges ofnadwy i bobl sy’n dod i mewn i Gymru, y porth i Gymru, fod yn rhaid gwneud y taliad hwn. Cafwyd cydnabyddiaeth ers tro ei bod yn broblem yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Felly, os ydym i gysylltu’r ardal eang hon ar draws yr Hafren yn fwy effeithiol, rwy’n meddwl mai rhan bwysig o hynny yw dileu’r tollau hyn, a gorau po gyntaf y mae’n digwydd.
Ond mae’n rhan o’r darlun ehangach o gysylltedd mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, y strategaeth ynni, y strategaeth seilwaith gyffredinol a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw a gwaith arall. Wyddoch chi, mae’n ymwneud â’r prifysgolion, mae’n ymwneud â busnesau, mae’n ymwneud â chymdeithas ddinesig—mae’n agenda go bellgyrhaeddol. Ond o fewn hynny, fel y dywedais, rwy’n credu ei bod yn bwysig yn symbolaidd ac yn ymarferol ein bod yn dileu’r tollau hyn ac yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Ac mae’n wych gweld, rwy’n meddwl, y consensws cryf i’r perwyl hwnnw yn y Siambr hon heddiw.
Pan edrychwn ar y materion sy’n codi a’u natur hirdymor, Ddirprwy Lywydd, mae’r rheini ohonom sy’n cynrychioli Casnewydd a’r ardaloedd o gwmpas, yn gwybod am y teimladau cryf yn lleol sydd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd ac sy’n dal i fod yn gryf iawn heddiw. Mae pobl leol a busnesau a sefydliadau lleol o ddifrif yn edrych ymlaen at y dydd pan gaiff y tollau eu diddymu o’r diwedd. Mae wedi bod yn ymgyrch hir; mae wedi cynhyrchu llawer iawn o gefnogaeth yn lleol ac fel cynrychiolydd yn Nwyrain Casnewydd, gwn fod llawer o bobl eraill, megis Jayne Bryant sy’n cynrychioli Gorllewin Casnewydd, yn gefnogol iawn i’w diddymu. Felly, rwy’n meddwl y dylem gydnabod hynny. Ni ddylem edrych ar hyn fel rhyw ymgyrch newydd a gynhyrchwyd yn y Cynulliad—mae’n mynd yn llawer pellach yn ôl na hynny. Ac rwy’n credu bod hynny’n gryfder go iawn, gan ei fod yn dangos, dros gyfnod o amser, y materion sydd wedi ysgogi pobl i alw am ddiddymu’r tollau. Fel y dywedais yn gynharach, gorau po gyntaf y bydd yn digwydd.