Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Mae hi yn wybyddus bod cyfraddau y rhai sy’n goroesi canser yn is i’r rheini sy’n cael diagnosis drwy adrannau brys mewn ysbyty. Mae hi hefyd yn hysbys bod annhegwch o ran pwy sy’n debyg o fod yn mynd i gael diagnosis mewn adran frys, a bod y llai cyfoethog yn fwy tebygol o fynd drwy’r broses honno yn hytrach na mynd drwy brosesau a thrio neidio dros rwystrau o ran mynd i weld y GP ac ati. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi y gallai’r Llywodraeth edrych ar gyflwyno canolfannau cerdded i mewn fel bod pobl sydd â symptomau, o bosibl sydd wedi bod ganddyn nhw ers tro, yn gallu mynd i gael ‘check-up’ heb fynd drwy brosesau y system GP llawn?