<p>Nifer y Bobl sy’n Goroesi Canser</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 22 Tachwedd 2016

Wel, y broblem, rwy’n credu, gyda llawer o wahanol gancrau, yw eu bod nhw’n ymddangos pan fo rhywun yn mynd i’r adran frys o achos y ffaith nad yw’r symptomau yn mynd yn ddifrifol nes eu bod nhw’n mynd fanna. Mae cancr pancreatig yn un enghraifft o hynny, lle mae llawer o bobl yn cael diagnosis dim ond unwaith maen nhw’n mynd i adran frys, o achos y ffaith ei bod hi’n mor anodd i roi diagnosis am gancr fel yna. Mae rhai pobl yn teimlo poen ond efallai nid ydyn nhw’n gwneud dim byd amdano fe—rydym ni’n gwybod bod rhai fel yna. Wedyn, wrth gwrs, maen nhw mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddyn nhw gael triniaeth. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda meddygon er mwyn iddyn nhw allu symud pobl ymlaen drwy’r system er mwyn iddyn nhw allu cael diagnosis o ganser cyn gynted ag sydd yn bosib. Rydym ni’n gweld, wrth gwrs, fod y mwyafrif mawr o bobl yn mynd drwy’r system ac yn cael diagnosis cyn gynted ag sydd yn bosib.