Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, diagnosis cynnar yw’r allwedd i wella cyfraddau goroesi canser. Felly, mae i’w groesawu’n enfawr bod y cynllun cyflawni ar ganser newydd i Gymru yn ailwampio atgyfeiriadau canser meddygon teulu trwy dreialu canolfannau diagnostig ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Fodd bynnag, mae'r cynllun cyflawni yn nodi bod gwella mynediad at ddiagnosteg yn her enfawr. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder offer a staff ym meysydd patholeg, radiograffeg ac oncoleg a nodir yn y cynllun cyflawni?