Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Ond, Lywydd, mae llawer mwy i'w wneud. Yn y 18 mis nesaf, mae gennym gynlluniau i weithio gyda'r sector a dioddefwyr a goroeswyr i ddatblygu cynllun cyflawni manwl; cefnogi ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol a byrddau iechyd sy’n datblygu eu strategaethau lleol; cyhoeddi canllawiau cenedlaethol pellach ar gomisiynu, cydweithredu amlasiantaethol a'r ymagwedd addysg-gyfan; gweithio gyda'r sector a fy ngrŵp cynghori gweinidogol i sicrhau bod y cyllid i wasanaethau yn fwy cynaliadwy; a datblygu fframwaith ymgysylltu â goroeswyr.
Lywydd, yng Nghymru, fel gweddill y byd, mae pob math o drais yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod menywod yn fwy tebygol o brofi trais ar sail rhyw, ac, fel y cyfryw, rydym yn cydnabod mai trais yn erbyn menywod yw'r ffurf fwyaf cyffredin o drais ar sail rhyw. Felly, mae'r polisi a’r cynigion deddfwriaethol a nodir yn y Ddeddf yn effeithio’n bennaf ar fenywod a merched. Mae rhai Aelodau yn y Siambr sy'n hyrwyddo dynion sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn dweud bod yn rhaid i wasanaethau gefnogi dioddefwyr gwrywaidd hefyd. Mae'r Aelodau hyn yn llygad eu lle ac rwy’n eu canmol. Ond mae rhai Aelodau yn y Siambr hon sy'n hyrwyddo dioddefwyr gwrywaidd ar draul dioddefwyr benywaidd, ac yn troi mater trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhyw fath o gystadleuaeth sinistr. Mae'r Aelodau hyn, ar y gorau, naill ai’n ffuantus neu'n anwybodus.
I’n helpu o ddifrif i atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hysbysu plant, i wneud yn siŵr eu bod yn deall beth yw perthynas iach a sut i adnabod symptomau perthynas nad yw’n iach. Hyd yn hyn, rydym wedi cyhoeddi ‘Canllaw Arfer Da: Ymagwedd Addysg Gyfan at Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru’, a gynhyrchwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, a chanllawiau codi ymwybyddiaeth i lywodraethwyr ysgolion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Rydym hefyd wedi cynnal cynhadledd addysg genedlaethol.
Bydd canllawiau statudol ar addysg yn gwneud i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i hyrwyddo materion sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Rydym yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i addysgu plant am berthynas iach, cam-drin a'i ganlyniadau a ble i geisio cymorth. Rydym hefyd yn ariannu prosiect Plant yn Cyfrif Cymorth i Fenywod Cymru i gynorthwyo elfen ataliol y Ddeddf. Mae'r prosiect yn cefnogi gwasanaethau lleol ledled Cymru i herio anghydraddoldeb rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc, ac i wella diogelwch. Lywydd, rydym wedi cynhyrchu nifer o ymgyrchoedd uchel eu proffil i godi ymwybyddiaeth a newid agweddau. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch sydd wedi ennill gwobrau Croesi’r Llinell, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol.
Ar hyn o bryd, rydym yn annog pawb i wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae parhau â'n hymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn yn rhan allweddol o'n camau gweithredu i newid agweddau a herio ymddygiad.
Er bod Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi gwneud cryn dipyn o waith yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod bod llawer yn dal i ddioddef trais neu gam-drin, neu mewn perygl o hynny. Ac mae 1.4 miliwn o fenywod a 700,000 o ddynion rhwng 16 a 59 oed yn dweud eu bod wedi profi achosion o gam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae un o bob 5 o ferched 16 i 59 oed wedi dioddef rhyw fath o drais rhywiol ers iddynt fod yn 16 oed. Yn 2009-10, roedd 54 y cant o ddioddefwyr benywaidd 16 oed neu hŷn a gafodd eu lladd wedi’u lladd gan eu partner, eu cynbartner neu eu cariad, o gymharu â 5 y cant o ddynion sy'n dioddef. Yn 2011, amcangyfrifwyd bod 137,000 o ferched a menywod yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod yn y DU. Amcangyfrifir bod 140 o ddioddefwyr anffurfio organau cenhedlu benywod y flwyddyn yng Nghymru.
Mae pwrpas i siarad am ddeddfwriaeth, ystadegau a strategaethau. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn rhannu dealltwriaeth o raddfa'r problemau sy'n ein hwynebu a sut yr ydym yn mynd i ymdrin â nhw gyda’n gilydd. Ond ni all hyn ddweud y stori gyfan wrthym. Lywydd, yr hyn sydd wir yn fy nghymell i ddal i ganolbwyntio ar y dasg anodd o ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yw’r weledigaeth o’n gwlad os na wnawn hynny, a'r straeon ofnadwy ac annifyr y mae dioddefwyr a goroeswyr yn eu dweud wrthyf am eu profiadau. Rwyf am ddarllen yn sydyn rhai geiriau gan oroeswr cam-drin domestig:
‘Rwyf wedi symud o fy nghartref teuluol ar ôl llawer o gam-drin rhywiol ac ariannol. Doeddwn i ddim yn gwybod y gallai gŵr eich treisio chi. Dywedodd wrthyf nad oes gennyf hawl i ddweud na, mai ef yw fy ngŵr a’i fod yn cael gwneud fel a fynno. Dim ond ar ôl imi siarad â Cymorth i Fenywod y cefais wybod beth oedd fy hawliau ac rwyf nawr yn gwybod beth yw ystyr trais.’
Rwyf fi, fel llawer, yn llysgennad Rhuban Gwyn, ac wedi bod ers blynyddoedd lawer. Rwyf wastad wedi bod yn angerddol am ymdrin â thrais yn erbyn menywod. Gan fod y materion hyn mor gyffredin, mae'n debygol ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi teimlo effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Lywydd, mae'n eithaf posibl bod y materion hynny wedi effeithio'n uniongyrchol ar 10 i 15 o Aelodau'r Cynulliad yn yr ystafell hon. Mae’n rhaid i unrhyw fater sy'n effeithio ar chwarter ein poblogaeth fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth i weithredu. A dyna pam mae'n rhaid inni barhau i weithio gyda'n gilydd i ymdrin â'r problemau hyn sy'n parhau i fod yn bla ar ein cymdeithas.