– Senedd Cymru am 5:29 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod—galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y dydd Gwener yma yw Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. Pan aeth Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru â’r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) drwy'r Cynulliad yn 2015, roeddem yn glir ynghylch ein nodau i wella mesurau atal, diogelu a chefnogi i ddioddefwyr a goroeswyr. Ers hynny rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol, Rhian Bowen-Davies; wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar y fframwaith hyfforddiant cenedlaethol; wedi sefydlu’r fframwaith hyfforddi cenedlaethol a ‘gofyn a gweithredu’; wedi adnewyddu dulliau llywodraethu a grwpiau cynghori cenedlaethol; wedi ymgynghori â goroeswyr drwy gyfrwng Gymorth i Fenywod Cymru ac wedi cyhoeddi’r adroddiad a ddeilliodd o’r ymgynghoriad hwnnw, ‘Ydych chi'n gwrando ac ydw i'n cael fy nghlywed?’—adroddiad ar argymhellion goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru; ac wedi cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol gyntaf.
Ond, Lywydd, mae llawer mwy i'w wneud. Yn y 18 mis nesaf, mae gennym gynlluniau i weithio gyda'r sector a dioddefwyr a goroeswyr i ddatblygu cynllun cyflawni manwl; cefnogi ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol a byrddau iechyd sy’n datblygu eu strategaethau lleol; cyhoeddi canllawiau cenedlaethol pellach ar gomisiynu, cydweithredu amlasiantaethol a'r ymagwedd addysg-gyfan; gweithio gyda'r sector a fy ngrŵp cynghori gweinidogol i sicrhau bod y cyllid i wasanaethau yn fwy cynaliadwy; a datblygu fframwaith ymgysylltu â goroeswyr.
Lywydd, yng Nghymru, fel gweddill y byd, mae pob math o drais yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod menywod yn fwy tebygol o brofi trais ar sail rhyw, ac, fel y cyfryw, rydym yn cydnabod mai trais yn erbyn menywod yw'r ffurf fwyaf cyffredin o drais ar sail rhyw. Felly, mae'r polisi a’r cynigion deddfwriaethol a nodir yn y Ddeddf yn effeithio’n bennaf ar fenywod a merched. Mae rhai Aelodau yn y Siambr sy'n hyrwyddo dynion sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn dweud bod yn rhaid i wasanaethau gefnogi dioddefwyr gwrywaidd hefyd. Mae'r Aelodau hyn yn llygad eu lle ac rwy’n eu canmol. Ond mae rhai Aelodau yn y Siambr hon sy'n hyrwyddo dioddefwyr gwrywaidd ar draul dioddefwyr benywaidd, ac yn troi mater trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhyw fath o gystadleuaeth sinistr. Mae'r Aelodau hyn, ar y gorau, naill ai’n ffuantus neu'n anwybodus.
I’n helpu o ddifrif i atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hysbysu plant, i wneud yn siŵr eu bod yn deall beth yw perthynas iach a sut i adnabod symptomau perthynas nad yw’n iach. Hyd yn hyn, rydym wedi cyhoeddi ‘Canllaw Arfer Da: Ymagwedd Addysg Gyfan at Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru’, a gynhyrchwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, a chanllawiau codi ymwybyddiaeth i lywodraethwyr ysgolion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Rydym hefyd wedi cynnal cynhadledd addysg genedlaethol.
Bydd canllawiau statudol ar addysg yn gwneud i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i hyrwyddo materion sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Rydym yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i addysgu plant am berthynas iach, cam-drin a'i ganlyniadau a ble i geisio cymorth. Rydym hefyd yn ariannu prosiect Plant yn Cyfrif Cymorth i Fenywod Cymru i gynorthwyo elfen ataliol y Ddeddf. Mae'r prosiect yn cefnogi gwasanaethau lleol ledled Cymru i herio anghydraddoldeb rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc, ac i wella diogelwch. Lywydd, rydym wedi cynhyrchu nifer o ymgyrchoedd uchel eu proffil i godi ymwybyddiaeth a newid agweddau. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch sydd wedi ennill gwobrau Croesi’r Llinell, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol.
Ar hyn o bryd, rydym yn annog pawb i wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae parhau â'n hymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn yn rhan allweddol o'n camau gweithredu i newid agweddau a herio ymddygiad.
Er bod Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi gwneud cryn dipyn o waith yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod bod llawer yn dal i ddioddef trais neu gam-drin, neu mewn perygl o hynny. Ac mae 1.4 miliwn o fenywod a 700,000 o ddynion rhwng 16 a 59 oed yn dweud eu bod wedi profi achosion o gam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae un o bob 5 o ferched 16 i 59 oed wedi dioddef rhyw fath o drais rhywiol ers iddynt fod yn 16 oed. Yn 2009-10, roedd 54 y cant o ddioddefwyr benywaidd 16 oed neu hŷn a gafodd eu lladd wedi’u lladd gan eu partner, eu cynbartner neu eu cariad, o gymharu â 5 y cant o ddynion sy'n dioddef. Yn 2011, amcangyfrifwyd bod 137,000 o ferched a menywod yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod yn y DU. Amcangyfrifir bod 140 o ddioddefwyr anffurfio organau cenhedlu benywod y flwyddyn yng Nghymru.
Mae pwrpas i siarad am ddeddfwriaeth, ystadegau a strategaethau. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn rhannu dealltwriaeth o raddfa'r problemau sy'n ein hwynebu a sut yr ydym yn mynd i ymdrin â nhw gyda’n gilydd. Ond ni all hyn ddweud y stori gyfan wrthym. Lywydd, yr hyn sydd wir yn fy nghymell i ddal i ganolbwyntio ar y dasg anodd o ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yw’r weledigaeth o’n gwlad os na wnawn hynny, a'r straeon ofnadwy ac annifyr y mae dioddefwyr a goroeswyr yn eu dweud wrthyf am eu profiadau. Rwyf am ddarllen yn sydyn rhai geiriau gan oroeswr cam-drin domestig:
‘Rwyf wedi symud o fy nghartref teuluol ar ôl llawer o gam-drin rhywiol ac ariannol. Doeddwn i ddim yn gwybod y gallai gŵr eich treisio chi. Dywedodd wrthyf nad oes gennyf hawl i ddweud na, mai ef yw fy ngŵr a’i fod yn cael gwneud fel a fynno. Dim ond ar ôl imi siarad â Cymorth i Fenywod y cefais wybod beth oedd fy hawliau ac rwyf nawr yn gwybod beth yw ystyr trais.’
Rwyf fi, fel llawer, yn llysgennad Rhuban Gwyn, ac wedi bod ers blynyddoedd lawer. Rwyf wastad wedi bod yn angerddol am ymdrin â thrais yn erbyn menywod. Gan fod y materion hyn mor gyffredin, mae'n debygol ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi teimlo effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Lywydd, mae'n eithaf posibl bod y materion hynny wedi effeithio'n uniongyrchol ar 10 i 15 o Aelodau'r Cynulliad yn yr ystafell hon. Mae’n rhaid i unrhyw fater sy'n effeithio ar chwarter ein poblogaeth fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth i weithredu. A dyna pam mae'n rhaid inni barhau i weithio gyda'n gilydd i ymdrin â'r problemau hyn sy'n parhau i fod yn bla ar ein cymdeithas.
Diolch am eich datganiad, cyn Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ddydd Gwener, a hefyd am eich sylwadau yn nigwyddiad Diwrnod Rhuban Gwyn heddiw, i hyrwyddo’r ymgyrch Ddim yn fy Enw I gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, lle gorffennodd goroeswr cam-drin domestig ei chyfraniad dewr a theimladwy drwy ofyn i bob un ohonom beidio byth ag anghofio beth yw cariad, a beth nad yw.
Ar ôl i Bethan Jenkins a mi ysgrifennu atoch fel cyd-gadeiryddion y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant am bryderon y grŵp ynghylch y strategaeth genedlaethol ddrafft ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—fframwaith ar gyfer cyflawni 2016- 21, a’ch llythyr chi’n ymateb iddo, mae Cymorth i Fenywod Cymru, ar y cyfan, wedi croesawu'r strategaeth derfynol, ac yn enwedig y ffaith ei bod nawr yn cynnwys diffiniad y Cenhedloedd Unedig o drais yn erbyn menywod. Ond maent yn awr yn gobeithio gweld yr egwyddorion a'r blaenoriaethau a amlinellir yn y strategaeth yn cael eu hymgorffori mewn cynllun cyflawni effeithiol sydd wedi’i gynhyrchu ar y cyd ac yn cynnwys adnoddau digonol i sicrhau y gellir ei gyflawni. Maent yn gobeithio yr ymgynghorir â’r sector trais yn erbyn menywod ynglŷn â datblygiad y cynllun, ond nid ydynt eto wedi cael amserlen a chynllun ar gyfer sut a phryd y gwneir hyn.
Er bod eich datganiad, i raddau helaeth, yn ateb hynny, rydych yn datgan bod gennych gynlluniau ‘yn y 18 mis nesaf’ i
‘Weithio gyda'r sector...i ddatblygu cynllun cyflawni manwl’.
Felly, tybed a allwch fod yn fwy manwl. Beth yw'r amserlen ar gyfer y cynllun cyflawni, nid dim ond ymgynghoriad, ond ar gyfer ei gyflwyno a’i roi ar waith? Sut y byddwch yn sicrhau ei fod wedi’i gynhyrchu ar y cyd—yn yr achos hwn, rwy’n cyfeirio at eu geiriau nhw; nid fi sy’n rhygnu ymlaen am derm er ei fwyn ei hun—gyda'r sector trais yn erbyn menywod a gyda dioddefwyr a goroeswyr eu hunain?
Arweiniodd y Ddeddf, pan nad oedd yn ddim ond Bil—y Bil trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—pan gafodd ei drafod yma, fel y gwyddoch, at chwarae—wel, nid chwarae, chwarae’n ddifrifol, yn y pen draw, ar y dibyn, er mwyn i’r Llywodraeth gryfhau ei hymrwymiadau ymarferol i addysg am berthynas iach. Cyfeiriais yn y Siambr at y ffaith fy mod wedi bod allan gyda phrosiect Sbectrwm Hafan Cymru, i addysgu plant a phobl ifanc am berthynas iach, cam-drin a'i ganlyniadau, a ble i geisio cymorth. Rwy’n croesawu eich cydnabyddiaeth i’r prosiect penodol hwnnw a’r ffaith eich bod wedi cyfeirio ato, ochr yn ochr â phrosiect Plant yn Cyfrif Cymorth i Fenywod Cymru, yn eich datganiad.
Rydych yn dweud:
‘Bydd y canllawiau statudol ar addysg yn gwneud i Awdurdodau Lleol ddynodi aelod o staff i hyrwyddo materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill.’
Fodd bynnag, pan ymgyrchodd Peter Black, Jocelyn Davies a minnau gyda’n gilydd i gryfhau’r mater hwn, cyn i'r Ddeddf gael ei phasio, roedd gohebiaeth y Gweinidog ar y pryd yn dweud y byddai canllawiau statudol yn darparu neu’n cynnwys darpariaethau ar gyfer dulliau fel sut y gallai ysgolion ysgogi ymagwedd ysgol gyfan drwy benodi aelod o staff, disgybl a llywodraethwr i wneud y gwaith penodol hwn. Dywedodd hefyd y byddai'n cynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod wrth ddatblygu cynigion Donaldson i sicrhau bod addysg perthynas iach yn cael ei datblygu o fewn y cwricwlwm. Felly, tybed a allech roi sylwadau, yng nghyd-destun penodi disgyblion a llywodraethwyr yn ehangach, ond hefyd yng nghyd-destun sut, yn fwy na dim ond dynodi aelod o staff, y mae hyn yn mynd i gael ei ymgorffori yn y cwricwlwm, yn seiliedig ar argymhellion a chynigion Donaldson.
Mae adroddiad yr NSPCC ‘Pa mor ddiogel yw ein plant? 2016’ yn nodi cynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant dan 16 yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wrth gwrs, gallai rhywfaint o hynny fod oherwydd mwy o hysbysu am achosion. Roedd eu cyflwyniad Stop it Now! yn ddiweddar i'r grŵp trawsbleidiol ar gam-drin plant yn rhywiol yn datgan y dylem fod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei atal cyn iddo ddigwydd, cyn i bobl sydd mewn perygl o gam-drin droi’n droseddwyr, a chyn i ddioddefwyr posibl droi’n ddioddefwyr go iawn, lle, hyd yn hyn, mae'r ymateb wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddod â throseddwyr o flaen eu gwell a darparu therapi a chymorth yn unig i rai plant. Felly, sut yr ydych yn ymateb i'w galwad am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer atal cam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru?
Mae gan Gymru gyfle mawr nawr, o ystyried y sail ddeddfwriaethol sydd gennym nawr yn ddomestig, i ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o hyn i helpu i ddiddymu trais yn erbyn menywod o gwmpas y byd, yn arbennig, drwy gyfrwng y rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Yn wir, wrth basio Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Cymru wedi ymrwymo i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang. Sut yr ydych yn ymateb, felly, i'r alwad am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i weithio i ymdrin â'r her hon ledled y byd, er mwyn dangos bod Cymru o ddifrif ynglŷn â bod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang?
Mae fy mhwynt a’m cwestiwn olaf yn ymwneud â'r prosiect Teuluoedd Gyda'i Gilydd gan Atal y Fro, a ariennir gan grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy y trydydd sector. Mae hwn yn darparu cefnogaeth i bob agwedd ar anghenion teulu, gan gynnwys profiadau o gam-drin domestig, ac mae'n cynnwys eu rhaglen eu hunain sydd yn bennaf ar gyfer dynion sy’n cyflawni trais domestig nad ydynt wedi bod yn y carchar. Maent hefyd yn datblygu prosiectau peilot ar gyfer menywod a phobl ifanc sy’n cyflawni trais domestig. Felly, sut yr ydych yn ymateb i'r datganiad yr wyf yn credu a wnaethpwyd iddynt gan uned trais yn erbyn menywod Llywodraeth Cymru bod Llywodraeth Cymru nawr yn datblygu canllawiau ar dramgwyddwyr, ac yn y bôn eich cynnydd ar hynny er mwyn cynnwys nid dim ond prosiectau rhagorol fel hwn, ond yr unig raglen achrededig yng Nghymru—y rhaglen y maen nhw’n ei defnyddio—sef y rhaglen Relate Choose 2 Change, a gafodd ei hyrwyddo’n helaeth gennyf fi wrth i’r ddeddfwriaeth fynd drwodd, ond yn anffodus na chafodd ei hymgorffori yn y ddeddfwriaeth bryd hynny? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei gefnogaeth eang a’i gwestiynau y prynhawn yma. Rwy'n meddwl bod y newid mewn Llywodraethau, neu ethol y Llywodraeth, wedi bod yn ddefnyddiol o ran rhoi amser i oedi a meddwl am weithredu'r Ddeddf a sut y gallem greu ymagwedd fwy cyfannol at y model cyflenwi hwn. Pan ddes i i’m swydd, gwnes ymrwymiad i siarad â'r sector, ac yn bwysicach, i siarad â buddugwyr neu oroeswyr sefyllfaoedd trais domestig. Rwyf bellach wedi adnewyddu’r grŵp cynghori, sydd bron wedi dyblu o ran ei faint, a dweud y gwir, ond gydag arbenigedd o'r sector cyfan, o raglenni ymyrraethau tramgwyddwyr i bobl ifanc, yr NSPCC, i ddioddefwyr gwrywaidd a llawer o arbenigwyr eraill yn y maes. Felly, mae fy mhroses ymgysylltu’n gadarn iawn ac rwy'n obeithiol bod—. Rwyf wedi gosod dwy dasg iddynt i ddechrau. Mae un yn ymwneud â model ariannu cynaliadwy. Felly, byddwn yn edrych ar y tymor hir ar gyfer y gwasanaethau sydd eu hangen. Ac mae un yn ymwneud â pha wasanaethau sydd eu hangen. Felly, rwy’n edrych ar lwybr cyfan am y ffordd yr ydym yn ariannu hynny ac yn edrych ar bwy sy’n cyflawni beth a ble. Rwy'n obeithiol y bydd hynny'n dod yn ôl, gan ganolbwyntio'n bennaf ar brofiadau pobl, pa un ai a fydd hynny'n drwy'r system cyfiawnder troseddol neu drwy'r system llysoedd neu awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol, gan wneud yn siŵr ein bod yn deall yn llawn sut y mae’r dull yn cael ei ddatblygu.
O ran perthynas iach, rwy’n cytuno â'r Aelod; rwy’n meddwl, a dweud y gwir, bod yn rhaid inni ddechrau siarad â phobl iau am dderbyn yr hyn sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw’n dderbyniol o ran perthynas iach a chydsynio. Ac rwyf wedi siarad â Kirsty Williams am y mater hwn, yn wir, am les pobl ifanc yn gyffredinol, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn dychwelyd ato o ran y cwricwlwm ac agweddau eraill ar hyn.
Rwy'n cydymdeimlo â'r dulliau y soniodd y Gweinidog blaenorol amdanynt, ynglŷn â chynnwys yr hyfforddiant i lywodraethwyr a phobl ifanc yn y broses honno hefyd. Os dyna'r peth iawn i'w wneud, efallai mai dyna beth y dylem ei wneud, ac nid wyf yn meddwl y gwelwch lawer o dynnu’n groes gennym ni o ran gwneud yn siŵr y gallwn greu’r canlyniad cywir o'r Ddeddf gyda bwriadau da.
Yn wir, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y mater y mae’r Aelod yn ei godi ynglŷn â chamfanteisio'n rhywiol ar blant a'r gwaith y gwnaethom ei ddechrau o amgylch profiadau plentyndod anffafriol a gwybod yn iawn bod un ACE sy’n ymwneud â thrais domestig yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc yn fwy hirdymor. A dweud y gwir, mae gennyf rai pryderon, wir, pan fyddwn yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd trais domestig, weithiau bydd unigolyn iau o fewn y lleoliad teulu’n eilradd, ac, mewn gwirionedd, dylem fod yn meddwl am hynny o ran dulliau cyflawni seiliedig ar y teulu.
Rwy'n gyfarwydd â'r prosiect Atal y Fro yn y Barri. Rwyf wedi bod yno gyda'r Aelod lleol, Jane Hutt— flynyddoedd lawer yn ôl—ac rwy’n deall y gwaith gwych y maent yn ei wneud, yn enwedig o ran rhaglenni tramgwyddwyr. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r dull partneriaeth gadarnhaol sydd gennym ar waith gyda sefydliadau eraill, ac mae gan Heddlu De Cymru fodel y maent yn ei ddefnyddio o Essex, a dweud y gwir. Maent yn ei ddefnyddio fel rhaglen tramgwyddwyr yn ardal Abertawe, rwy’n meddwl, ac rydym yn dysgu o hynny, hefyd. Felly, mae'n fater o sicrhau ein bod yn uno dulliau pob asiantaeth ac, fel y dywedais yn gynharach, yn gwneud yn siŵr y gallwn ddod â’n harbenigedd at ei gilydd, dod â’n cyllid at ei gilydd, os dyna'r peth iawn i'w wneud, hefyd, i sicrhau ein bod yn llwyddo i weithredu'r Ddeddf gyda’r gefnogaeth wych sydd gennym yn y rhan fwyaf o'i Siambr.
Mae’r gwasanaeth llinell gymorth cenedlaethol, Byw Heb Ofn—Live Fear Free, wedi’i leoli yn fy etholaeth i, digwydd bod, a ddoe ces i gyfle i ymweld â’r adnodd hollbwysig yma. A gyda llaw, dyma i chi enghraifft o wasanaeth hollol ddwyieithog sy’n gwasanaethu Cymru gyfan o’r tu draw i Gaerdydd, a hynny mewn ffordd lwyddiannus iawn, ac mae’r gwasanaeth wedi ennill nifer o wobrau nodedig.
Mae 96 y cant o’r rhai sy’n ffonio’r llinell gymorth yn ferched. Nid ydy hynny ddim i ddweud nad ydy dynion hefyd yn dioddef trais rhywiol, wrth gwrs, na chamdriniaeth, a bod angen rhoi sylw i hynny, ond mi rydym ni yn gweld diraddio merched yn cael ei normaleiddio yn ddiweddar. Mi ddisgrifiodd Nigel Farage sylwadau darpar Arlywydd America, pan oedd yn brolio ei fod o yn cymryd mantais rywiol ar ferched, fel ‘alpha male boasting’. Sylwadau gwarthus, rwy’n meddwl, a dylai UKIP yng Nghymru fod â chywilydd bod y ffasiwn beth wedi cael ei ddweud a chondemnio’r math yna o ieithwedd. A ydych chi’n cytuno bod yr awyrgylch wrth-fenywaidd, ‘misogynist-aidd’ bresennol yn milwrio yn erbyn lleihau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bod angen felly i’r Llywodraeth a phawb arall ddyblu’r ymdrechion yn yr hinsawdd bresennol?
Rwy’n troi at y strategaeth genedlaethol sydd newydd ei chyhoeddi ac, fel Mark Isherwood, mae gennyf i nifer o gwestiynau yn ei chylch hi. A ydych chi’n argyhoeddedig bod yr angen i addysgu ein plant a’n pobl ifanc am berthnasoedd iach yn gwreiddio a’i fod o’n cael sylw dyladwy wrth i’r cwricwlwm ysgolion newydd ddod i fodolaeth? Mae yna gyfle gwych efo’r cwricwlwm newydd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn, neu fydd y newid ddim yn digwydd yn y pen draw, heblaw ein bod ni’n addysgu ynglŷn â pherthnasoedd iach yn ein hysgolion ni.
O ran y strategaethau lleol sy’n cael eu datblygu, a ydych chi’n hyderus bod y rhain yn cael eu datblygu mewn ffordd gadarn a chyson ar draws yr awdurdodau lleol? Rydych chi wedi sôn am gyhoeddi’r fframwaith cyflawni, ond pryd yn union? Beth ydy’r ‘deadline’ ar gyfer cyhoeddi’r fframwaith cyflawni a fydd yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at amcanion y strategaeth, a beth fydd statws cyfreithiol y fframwaith cyflawni hwnnw? A phryd y bydd y dangosyddion cenedlaethol yn dod i rym? Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o’r strategaeth, ond rydw i yn falch o weld ei bod hi wedi symud ymlaen gryn dipyn ers y strategaeth ddrafft a welsom ni yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ddiweddar. Ond mae yna’n dal lot fawr o waith sydd angen ei wneud a hynny ar frys.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu polisïau yn y Cynulliad yn y maes yma ac wedi llwyddo hefyd i newid y gyfraith ar stelcian dan arweiniad Elfyn Llwyd yn San Steffan. Mae ein hymrwymiad ni fel plaid yn gwbl gadarn yn y maes yma, a pheidied neb ag amau hynny. Rydw i hefyd, a nifer o’m cyd-Aelodau fan hyn, yn bencampwr y Rhuban Gwyn.
Diolch i'r Aelod am ei hymrwymiad parhaus. Ymwelais â'r llinell gymorth Byw Heb Ofn hefyd ym Mangor—rwy’n meddwl mai dyna’r ardal—yn y gogledd, ac mae ganddynt staff gwych yno sy’n ymroddedig iawn i gynorthwyo unigolion agored iawn i niwed wrth iddynt ffonio’r llinell gymorth. Rwy’n rhoi teyrnged i'w gwaith. Yn wir, rwy’n meddwl bod yr Aelod ac Aelodau eraill yn ail-lansiad y cynllun rai wythnosau’n ôl.
Mae hi'n hollol gywir: mae cynyddu ymdrechion yr holl Aelodau yn rhywbeth y dylem ei wneud. Ni ddylem byth anghofio bod hwn yn ddiwrnod ddydd Gwener sydd gennym yn y dyddiadur i gydnabod y materion hyn, ond dylai fod yn norm. Dylai fod yn broses lle mae'n rhan o’r system yn hytrach nag yn ychwanegiad untro. Hwn yw’r peth iawn i'w wneud am y rhesymau iawn.
O ran manylion penodol y strategaeth, rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau am y strategaeth. Cafodd y drafft ei ddatblygu o’r dechrau i’r fersiwn derfynol wrth weithio gyda fy ymgynghorydd a hefyd gyda'r sector i geisio creu dogfen yr oedd pawb yn weddol fodlon arni. I mi, roedd hynny'n broses ddeddfwriaethol, ac roedd gennym derfyn amser i gynhyrchu hynny. Rwy’n meddwl fy mod wedi sôn yn y pwyllgor, a dweud y gwir, y bu’n eithaf heriol cyflawni'r strategaeth honno, ond y peth pwysicaf yw’r fframwaith cyflawni. Rwy'n ymddiheuro i Mark Isherwood na wnes i roi’r amserlen fframwaith iddo. Rwyf wir yn gallu ymlacio am hyn, oherwydd rwy’n meddwl bod angen ei wneud, ond ei wneud yn iawn. Rwyf wedi gofyn i ran o'r tîm yn y grŵp cynghori i roi cyngor imi am hyn.
Felly, dydw i ddim yn arbenigwr yn y maes hwn, ac mae gan fy swyddogion sgiliau da yn hyn o beth, ond a dweud y gwir, pobl go iawn sy’n profi hyn sy’n meddu ar yr arbenigedd go iawn. Mae'n rhaid inni brynu’r arbenigedd hwnnw i ddeall pam y mae angen y gwasanaethau hyn, a dyna sut y byddwn yn datblygu'r fframwaith gyda nhw, gan gynhyrchu ar y cyd fel y mae’r Aelod sôn amdano yn y Siambr yn rheolaidd. Ond rhof ymrwymiad i'r Siambr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y broses honno wrth inni fwrw ymlaen. Nid wyf am iddi fod yn broses hir, ond hoffwn wneud yn siŵr ei bod yn gywir.
Rwy'n ddiolchgar i Elfyn Llwyd am faterion y ddeddfwriaeth o amgylch stelcio. Yn sicr, roedd ef yn iawn i wneud hynny, ac rwy'n gefnogol iawn i’r egwyddor honno. Dylem anghofio am wleidyddiaeth plaid yn y maes hwn, a gwneud y peth iawn am y rhesymau iawn. Yn wir, mae mater rheolaeth gymhellol yn rhywbeth y dylem hefyd fod yn ymwybodol iawn ohono, a gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd, gyda'n gilydd, os oes gennym broblem gyda hynny, yn onest am y broses honno ac yn sicrhau ein bod yn rhoi gwybod os ydym yn credu mai dyna beth sy'n digwydd. Ond rwy’n ddiolchgar unwaith eto am ymrwymiad yr Aelod yn ystod y ddadl hon heddiw.
Mae diddymu trais yn erbyn menywod a phlant yn fusnes i bawb. Mae'n deg dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi ei wneud yn fusnes i chi. Efallai na fydd Aelodau newydd yn ymwybodol o’ch holl waith fel Gweinidog mewn Cynulliadau blaenorol, ac rydych wedi datblygu polisïau a strategaethau a deddfwriaeth. Felly, roeddwn yn awyddus i’ch cydnabod chi yma unwaith eto a’ch ymroddiad llwyr.
Mae chwe amcan o'r strategaeth sydd â chanolbwynt penodol i'w cyflawni erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Ond y pwysicaf i mi yw newid agweddau, a dyna pam yr wyf yn dweud ei fod yn fusnes i bawb. Roeddwn yn falch, am y bumed flwyddyn yn olynol, i ymuno â Sefydliad y Merched ar ddigwyddiad y prynhawn yma a wnaeth yn union beth hynny, a lle'r oedd nifer fawr o unigolion ifanc yn bresennol sydd am newid meddyliau ac agweddau eu cenhedlaeth, ac rwy’n obeithiol ar gyfer y genhedlaeth ar ôl hynny.
Ar ôl i’r Cynulliad godi heddiw, rwy'n gwahodd pawb yma i ymuno â mi mewn gwylnos golau cannwyll a gaiff ei chynnal y tu allan i adeilad y Senedd. Bydd yr wylnos yno i goffáu a chofio bywydau bobl a gafodd eu colli. Nid wyf yn gwybod faint o bobl sy’n gwybod, ond yn y tri mis cyntaf—12 wythnos—yn 2015, cafodd 26 o fenywod eu llofruddio naill ai gan eu gwŷr neu eu partneriaid neu gan eu cyn-wŷr neu eu cyn-bartneriaid. Mae hynny'n fwy na dwy fenyw bob wythnos. Roeddent yn wragedd, yn ferched, yn fodrybedd, yn neiniau, ond yn fwyaf oll, roeddent yn famau—mamau i blant sydd wedi cael eu gadael ar ôl, sydd mewn trallod mawr a heb wybod sut i ymdopi, a theuluoedd nad ydynt yn gwybod sut y maent yn mynd i barhau.
Felly, rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a lles, sy'n cynnwys darpariaeth i helpu plant ac oedolion ag angen gofal a chymorth, yn cyflawni ar gyfer y teuluoedd hynny sydd wedi’u gadael i godi darnau eu bywydau sydd wedi chwalu.
Joyce Watson, diolch i chi am eich sylwadau caredig, ond a gaf i ddweud mai dim ond y Gweinidog, yr Ysgrifennydd Cabinet nawr, wyf fi, sydd wedi cael caniatâd i alluogi'r cyfle i newid y ddeddfwriaeth a newid y negeseuon? Rwy’n cymryd hynny o ddifrif, ond pobl fel chi a llawer o rai eraill yn y Siambr hon hefyd, ac yn allanol, llawer o sefydliadau, sydd wedi hyrwyddo ac sy’n parhau i hyrwyddo, yma a ledled y byd, yn wir, eich ymrwymiad i hynny. Roedd Mark Isherwood yn iawn yn ei gyfraniad am fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae Joyce Watson wedi gwneud llawer i fynd â’r neges y tu hwnt i'n ffiniau am y gwaith yr ydym yn ei wneud yma a mynd â’r darn ardderchog hwnnw o ddeddfwriaeth a’i rannu ag eraill.
Mae'r Aelod yn codi rhai ffeithiau perthnasol iawn sy’n ofnadwy o niweidiol i gymunedau. Yn wir, o fis Ionawr i fis Hydref 2016, cafodd o leiaf 102 o ferched eu lladd gan bartner gwrywaidd neu brif unigolyn dan amheuaeth sy’n wryw. Mae hynny’n un fenyw bob tri diwrnod. Mae’n ystadegyn trasig. Mae hynny'n fy mrifo wrth imi ei ddweud a dylai frifo a gwneud i bawb feddwl am hynny.
Ar nodyn personol, rwy'n meddwl mai menywod, a mamau yn arbennig, yw'r bobl bwysicaf yn y byd. Mae pobl yn cael llawer o brofiadau bywyd teuluol, ond heb ein mamau, ni fyddai neb ohonom yma. Dylem ni i gyd gofio hynny a dyna pam y dylem fod yn gwneud yn siŵr ein bod yn herio bob tro y bydd unrhyw wahaniaethu yn erbyn menywod, ac yn enwedig mamau, neu eich modrybedd neu eich chwiorydd. Gallai hyn ddigwydd i unrhyw un ohonom. Rwy'n ddiolchgar, Joyce, am eich cefnogaeth barhaus ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd ar y mater pwysig iawn hwn.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgelu rhai ystadegau cwbl syfrdanol yn ei ddatganiad. Mae'n gywilyddus bod cynifer o fenywod a merched yn dioddef trais domestig yn yr oes sydd ohoni. Er bod tuedd gynyddol o fenywod yn cyflawni trais yn erbyn dynion ac er bod trais domestig yn digwydd hefyd mewn perthnasoedd o'r un rhyw, mae trais domestig yn dal i fod yn drosedd a gyflawnir yn bennaf gan ddynion yn erbyn menywod.
Ni allwn oramcangyfrif effaith gorfforol, seicolegol ac emosiynol trais domestig a rhywiol ar ddioddefwyr. Bydd angen cymorth ar holl ddioddefwyr trais domestig. Mae croeso i ymdrechion yr Ysgrifennydd Cabinet i ddatblygu fframwaith i ymgysylltu â goroeswyr, yn ogystal â’i addewid i weithio i sicrhau bod cyllid yn fwy cynaliadwy. Rwy’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, bod yn rhaid canolbwyntio ar blant a'u dealltwriaeth o berthyna iach.
Ond, ni ddylid diystyru’r ffordd y gall dynion sy’n oedolion gyfrannu at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. Gall dynion chwarae rhan hanfodol o ran rhoi terfyn ar drais seiliedig ar ryw. Mae'n hanfodol bod gan fechgyn ifanc rhywun sy’n gosod esiampl gadarnhaol yn eu teuluoedd, ar y teledu, mewn ysgolion ac mewn mannau eraill—dynion a fydd yn eu dysgu nad yw unrhyw ddyn go iawn yn taro menyw nac yn ei cham-drin. Os nad oes gan fechgyn y modelau rôl hyn yn eu teuluoedd, mae’n rhaid i'r wladwriaeth eu darparu. Mae gan athrawon gwrywaidd a dynion eraill mewn bywyd cyhoeddus, er enghraifft sêr pop neu sêr chwaraeon, i gyd ran bwysig i'w chwarae wrth roi terfyn ar drais yn erbyn merched. Maent yn gallu dylanwadu ar fechgyn a’u haddysgu i ddeall beth yw perthynas iach.
Fodd bynnag, mae’n rhaid inni sicrhau nad ydym yn troi at achosi teimlad o euogrwydd neu drin dynion fel eu bod yn gynhenid broblematig. Yn lle hynny, mae angen inni annog dynion i gymryd rhan a’u helpu i ddeall y gallant chwarae rhan allweddol i sicrhau diwylliant hapusach a mwy diogel ar gyfer cenedlaethau o fenywod a dynion yn y dyfodol. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gael gwared ar drais yn erbyn menywod a merched unwaith ac am byth. Galwaf felly ar ddynion a menywod ledled Cymru i wneud pob dydd yn Ddiwrnod Rhuban Gwyn. Diolch.
Cyfraniad pwysig iawn gan yr Aelod, ac rwy’n diolch iddi am hynny. Nid mater i ferched yw hwn—mae’n fater i ni. Mae’n ymwneud â phethau y dylem ni i gyd fod yn eu gweiddi’n uchel—ei fod yn annerbyniol. Am rhy hir o lawer, mae pobl wedi ofni dweud unrhyw beth a allai fod yn sarhaus. Mae hynny wedi bod yn drosedd cudd, ond nid yw mwyach. Bymtheg mlynedd yn ôl, ni fyddem byth wedi cael dadl fel hyn yn y Siambr. Ni fyddem byth wedi cael digwyddiad Sefydliad y Merched yn y Senedd yn siarad am yr union faterion hyn sy'n cyffwrdd â phob un o'n cymunedau. Nid yw’n gysylltiedig â dosbarth—gallai hyn ddigwydd yn unrhyw le i unrhyw un. Mae'n hen bryd inni, gyda'n gilydd, wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, rwy’n diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rydych yn llygad eich lle: mae angen rhai hyrwyddwyr gwrywaidd yn y maes hwn. Peidiwch â bod ofn sefyll i fyny a chael eich cyfrif. Rwyf, unwaith eto, yn cydnabod bod llawer o bobl yn y Siambr hon—llawer o’m cydweithwyr gwrywaidd yn y Siambr hon—yn hyrwyddo’r achos hefyd.
Mae ein hamser ar ben ar y datganiad hwn, ond rwy’n mynd i ganiatáu tri chwestiwn cryno gan dri Aelod. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Nid wyf yn credu bod amheuaeth o ran bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae llawer o bobl wedi sôn am addysgu plant yn ifanc. A yw'n cytuno ei bod yn gwbl hanfodol gwneud hyn mor ifanc â phosibl, yn ystod camau cynnar yr ysgol gynradd, fel eu bod yn tyfu â gwybodaeth o'r hyn y dylai perthynas iach fod?
Hoffwn hefyd wneud pwynt am y trais a’r rhywiaeth y gall plant eu gweld ar y rhyngrwyd, sy'n effeithio ar eu hagwedd tuag at berthnasoedd. Yn benodol, roeddwn yn awyddus i sôn am y gêm ‘Grand Theft Auto’, a gafodd ei gwahardd o rai cadwyni adwerthu ar ôl i ddeiseb a lansiwyd gan dair o oroeswyr benywaidd sicrhau dros 40,000 o lofnodion. Ond, mewn gwirionedd, rwy’n gwybod bod rhai plant o oed ysgol gynradd yn dal i gael chwarae'r gêm hon yma yng Nghymru. Felly, hoffwn ganmol Ysgol Gynradd Gabalfa yn fy etholaeth i am fenter a fynychais y llynedd i addysgu rhieni am gemau cyfrifiadurol sy'n annog trais yn erbyn menywod, yn enwedig ‘Grand Theft Auto’, a wnaethant yn rhan o ddiwrnod cyffredinol ymwybyddiaeth o’r rhyngrwyd yr oeddent yn ei gynnal. Rwyf wir yn meddwl bod addysgu rhieni am gynnwys gemau o’r fath yr un mor bwysig ag addysgu'r plant. A yw'n cytuno bod hyn yn rhan hanfodol o'r strategaeth hon, fel nad yw plant yn gweld y delweddau hyn a fydd yn ystumio eu barn am beth yw perthnasoedd iach?
Yn wir, mae’r Aelod yn iawn ac, unwaith eto, yn hyrwyddwr arall i'r achos. Mae perthnasoedd iach yn allweddol i sicrhau ein bod yn torri cylch y drosedd erchyll hon. Ymwelais ag ysgol ddoe, mewn ardal â lefel cymharol uchel o achosion o drais domestig. Pam mae pobl yn ystyried ei bod yn rhesymol bod hyn yn normal? Pam maen nhw’n ystyried bod taro unigolyn arall—partner—yn arfer arferol? Mae plant yn credu hynny—dyna sut y maent yn tyfu—ac mai dyna fydd yn digwydd iddyn nhw. Mae'n rhaid inni dorri'r cylch, ac rwy'n credu bod y model perthnasoedd iach—a mynd i mewn yn gynnar iawn—yn allweddol i gyflawni yn y maes hwn.
Fel rhywun sydd wedi gweithio gyda dioddefwyr benywaidd cam-drin domestig a’u cefnogi, rwy’n croesawu’r rhan fwyaf o'r datganiad. Rwy’n pryderu am ddiffyg rheoleiddio yn y sector, sy'n golygu bod rhai pobl yn syrthio drwy'r bylchau, ac mae rhai o'r bobl hynny wedi cyrraedd fy swyddfa. Ar adegau, mae wedi bod yn anodd iawn sicrhau bod gwasanaethau plant yn gwrando ar ddioddefwyr, ac mae'r ffordd y maent wedi cael eu trin wedi gwaethygu’r cam-drin gwreiddiol.
Un maes sydd ar goll o'r datganiad hwn yw maes gwleidyddiaeth, oherwydd, mewn rhai cylchoedd, mae rhywiaeth yn cael ei derbyn. Mae rhai o’m cydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd o bob plaid—gwahanol bleidiau; dewch inni fod yn glir ynghylch hynny—wedi dioddef yn ormodol dros y pedair blynedd a hanner diwethaf. Mae tri chynghorydd benywaidd wedi gadael yr awdurdod, ac un ohonynt yn sôn yn uchel iawn am wahaniaethu rhywiaethol. Cafodd un cynghorydd benywaidd arall ei bwlio nes iddi orfod newid grŵp gwleidyddol.
Mae un cynghorydd arall wedi—[Torri ar draws.] Rwy'n dod ato yn awr. Mae'n bwysig iawn; os gwelwch yn dda gwrandewch. Mae un cynghorydd arall wedi cwyno wrthyf i yn breifat am y cam-drin y mae hi wedi’i ddioddef. Mae aelod o fy ngrŵp fy hun, oherwydd yr hyn y mae hi wedi ei wynebu, gan ei bod yn fenyw, yn ansicr a yw hi eisiau sefyll y flwyddyn nesaf yn etholiadau’r cyngor. Felly, fy nghwestiwn i chi, Weinidog, ac, fel cennad y Rhuban Gwyn, rwy'n siŵr y caf ymateb cadarnhaol, oherwydd rwyf wedi cael ymateb negyddol gan Gyngor Caerdydd ar hyn: a wnewch chi gefnogi a chychwyn arolwg o'r holl wleidyddion benywaidd a etholwyd yng Nghymru i fesur yr hyn y maent wedi’i wynebu a chael eu barn am sut y maent wedi cael eu trin? Mae'n faes hanfodol, ac rydym yn anwybyddu llawer o rywiaeth sy'n digwydd mewn gwirionedd i'n cydweithwyr ein hunain.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Gwrandewais yn ofalus ar ei gyfraniad ac mae'n iawn nad yw'n briodol i unrhyw aelod o unrhyw blaid wleidyddol mewn unrhyw faes neu arena ddioddef unrhyw gam-drin ar unrhyw ffurf. Cododd sylw diddorol iawn ynghylch pa un a ddylem gynnal arolwg o Aelodau, pleidiau gwleidyddol, yn enwedig menywod, sydd wedi profi trais domestig. Gallai fod yn rhywbeth y byddaf yn gofyn i'r Llywydd roi barn arno o ran y sefydliad hwn, i ddechrau—i arwain drwy esiampl cyn inni droi at bwnc ehangach. Wrth gwrs, byddwn yn gobeithio bod pob Aelod yn myfyrio ar ei gyfraniad personol i roi sylw i'r materion sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a cham-drin rhywiol, ac rydym yn cymryd hynny o ddifrif. Wrth gwrs, os oes pobl ag angen cefnogaeth yn y broses honno, boed hynny drwy ddioddefwr neu dramgwyddwr, yn sicr mae yna sianeli y gallwn eu cynghori amdanynt.
Yn olaf, Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, fel Joyce Watson, hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymroddiad dros lawer o flynyddoedd i ddiddymu trais yn erbyn menywod. Rwy'n falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y bydd yn gweithio gyda goroeswyr i ddatblygu cynllun cyflenwi. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar y lleisiau pwerus hynny. Un o'r lleisiau hynny yw Rachel Williams, sy'n un o fy etholwyr. Mae Rachel yn ysbrydoliaeth i mi ac i lawer o bobl eraill. Mae ei dewrder a’i dycnwch wrth godi ei llais a’i hegni a’i hymroddiad i ddiddymu trais yn erbyn menywod yn anhygoel. A all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar sut arall y gallwn sicrhau bod lleisiau’r goroeswyr wrth wraidd y strategaeth?
Diolch i Jayne am ei chyfraniad. Rwy'n adnabod Rachel Williams yn dda iawn ac, yn wir, mae hi'n ysbrydoliaeth. Er gwaethaf yr hyn y mae Rachel wedi ei wynebu, mae hi'n dal yn gwneud imi chwerthin ac yn dal i chwerthin gyda ni, ac rwy’n credu bod hwnnw’n sgìl anhygoel sydd ganddi, ac yn arwydd o barch i Rachel a llawer o fuddugwyr eraill, fel y maent yn hoff o gael eu galw— goroeswyr achosion o drais domestig. Aeth hi drwy broses ddifrifol iawn.
Mae'n rhan bwysig o'r broses i mi ein bod yn gwrando ar bobl go iawn, profiadau go iawn, ac mae’n rhaid i Rachel a phobl eraill fel Rachel fwydo i mewn i'r system. Ac mae Rachel, mewn gwirionedd, ar fy ngrŵp cynghori; rwyf wedi ei chyflwyno i hwnnw, ac mae hi eisoes wedi dechrau rhoi cipolwg inni ar wasanaethau a darpariaeth gwasanaethau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Ond gallwn adeiladu y tu hwnt i hynny, oherwydd mae croeso i arbenigwyr yn y maes hwn ac mewn agweddau eraill ar ddatblygu polisi, ond mae’n rhaid inni hefyd ddefnyddio arbenigwyr ochr yn ochr â phrofiadau, a dyna pam y bydd pobl fel Rachel a phobl eraill yn rhan o'r ffordd yr wyf yn datblygu polisi a’r ffordd y bydd y Llywodraeth hon yn datblygu polisi yn y dyfodol.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.