10. 7. Datganiad: Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:47, 22 Tachwedd 2016

Mae’r gwasanaeth llinell gymorth cenedlaethol, Byw Heb Ofn—Live Fear Free, wedi’i leoli yn fy etholaeth i, digwydd bod, a ddoe ces i gyfle i ymweld â’r adnodd hollbwysig yma. A gyda llaw, dyma i chi enghraifft o wasanaeth hollol ddwyieithog sy’n gwasanaethu Cymru gyfan o’r tu draw i Gaerdydd, a hynny mewn ffordd lwyddiannus iawn, ac mae’r gwasanaeth wedi ennill nifer o wobrau nodedig.

Mae 96 y cant o’r rhai sy’n ffonio’r llinell gymorth yn ferched. Nid ydy hynny ddim i ddweud nad ydy dynion hefyd yn dioddef trais rhywiol, wrth gwrs, na chamdriniaeth, a bod angen rhoi sylw i hynny, ond mi rydym ni yn gweld diraddio merched yn cael ei normaleiddio yn ddiweddar. Mi ddisgrifiodd Nigel Farage sylwadau darpar Arlywydd America, pan oedd yn brolio ei fod o yn cymryd mantais rywiol ar ferched, fel ‘alpha male boasting’. Sylwadau gwarthus, rwy’n meddwl, a dylai UKIP yng Nghymru fod â chywilydd bod y ffasiwn beth wedi cael ei ddweud a chondemnio’r math yna o ieithwedd. A ydych chi’n cytuno bod yr awyrgylch wrth-fenywaidd, ‘misogynist-aidd’ bresennol yn milwrio yn erbyn lleihau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bod angen felly i’r Llywodraeth a phawb arall ddyblu’r ymdrechion yn yr hinsawdd bresennol?

Rwy’n troi at y strategaeth genedlaethol sydd newydd ei chyhoeddi ac, fel Mark Isherwood, mae gennyf i nifer o gwestiynau yn ei chylch hi. A ydych chi’n argyhoeddedig bod yr angen i addysgu ein plant a’n pobl ifanc am berthnasoedd iach yn gwreiddio a’i fod o’n cael sylw dyladwy wrth i’r cwricwlwm ysgolion newydd ddod i fodolaeth? Mae yna gyfle gwych efo’r cwricwlwm newydd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn, neu fydd y newid ddim yn digwydd yn y pen draw, heblaw ein bod ni’n addysgu ynglŷn â pherthnasoedd iach yn ein hysgolion ni.

O ran y strategaethau lleol sy’n cael eu datblygu, a ydych chi’n hyderus bod y rhain yn cael eu datblygu mewn ffordd gadarn a chyson ar draws yr awdurdodau lleol? Rydych chi wedi sôn am gyhoeddi’r fframwaith cyflawni, ond pryd yn union? Beth ydy’r ‘deadline’ ar gyfer cyhoeddi’r fframwaith cyflawni a fydd yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at amcanion y strategaeth, a beth fydd statws cyfreithiol y fframwaith cyflawni hwnnw? A phryd y bydd y dangosyddion cenedlaethol yn dod i rym? Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o’r strategaeth, ond rydw i yn falch o weld ei bod hi wedi symud ymlaen gryn dipyn ers y strategaeth ddrafft a welsom ni yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ddiweddar. Ond mae yna’n dal lot fawr o waith sydd angen ei wneud a hynny ar frys.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu polisïau yn y Cynulliad yn y maes yma ac wedi llwyddo hefyd i newid y gyfraith ar stelcian dan arweiniad Elfyn Llwyd yn San Steffan. Mae ein hymrwymiad ni fel plaid yn gwbl gadarn yn y maes yma, a pheidied neb ag amau hynny. Rydw i hefyd, a nifer o’m cyd-Aelodau fan hyn, yn bencampwr y Rhuban Gwyn.