12. 9. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

– Senedd Cymru am 6:38 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:38, 22 Tachwedd 2016

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6168 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod fersiwn ddrafft The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Nid oes siaradwyr yn y ddadl yma. Felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:39, 22 Tachwedd 2016

Ac felly, daw hynny â thrafodion y dydd i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.