<p>Cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 1:30, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ar gyfer pobl Islwyn, mae cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd sy’n cynnwys 10 awdurdod lleol, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn newid pethau go iawn. Prif flaenoriaeth y cytundeb yw’r metro de Cymru arfaethedig. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o rwystredigaethau dyddiol fy etholwyr wrth iddynt geisio cymudo i ddinasoedd mawr Caerdydd a Chasnewydd. Ar reilffordd hynod boblogaidd Glynebwy i Gaerdydd, mae cymudwyr wedi gorfod wynebu Trenau Arriva Cymru yn defnyddio trenau 40 mlwydd oed. Mae’r cerbydau’n orlawn, ac nid oes fawr o bosibilrwydd y bydd trenau diesel ychwanegol yn cael eu caffael gan nad oes fawr o drenau diesel anacronistig ar y farchnad. Mae’r problemau diweddar wedi cael eu gwaethygu gan drenau’n cael eu tynnu oddi ar y traciau i wneud gwaith atgyweirio angenrheidiol am fod dail ar lawr wedi niweidio olwynion y trenau. A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer yr adeg pan fydd cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy’n werth mwy na £1 biliwn dros 20 mlynedd, yn dechrau gweddnewid seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus de Cymru, gan gynnwys gwasanaeth trên uniongyrchol i Gasnewydd ar gyfer fy etholwyr?