<p>Cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:31, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, fod metro de-ddwyrain Cymru yn nodwedd allweddol o’r cytundeb dinas, ac mae’r nod o greu system drafnidiaeth gyhoeddus o’r radd flaenaf ar draws y rhanbarth cyfan yn ganolog iddo, er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen am genedlaethau i ddod. Mae’r broses o gaffael gweithredwr a phartner datblygu ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau a’r metro eisoes yn mynd rhagddi’n dda. Mae pedwar cynigydd ar y rhestr fer a fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Rydym yn disgwyl gallu dyfarnu contract yn 2017, ac yn gweld y gwasanaethau metro yn weithredol o 2023 ymlaen.