<p>Cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:33, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cydnabod y pwyntiau y mae arweinydd y Blaid Geidwadol yn eu gwneud. Roedd y Canghellor yn dal i fod ar ei draed pan ddeuthum i lawr i ateb cwestiynau y prynhawn yma, felly byddaf yn aros i weld manylion terfynol datganiad yr hydref cyn ymrwymo i unrhyw gynlluniau gwariant penodol. Ond mae’r pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â buddsoddi er mwyn symud ein heconomi ymlaen yn un y mae’r Llywodraeth hon, yn sicr ddigon, yn ei rannu.