Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Weinidog, yn amlwg, rydym wedi cael datganiad yr hydref heddiw. Rydym yn gwybod bod y cytundeb dinas ar waith. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o ddatganiad yr hydref heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £400 miliwn ychwanegol, a bydd yn allweddol, wrth gyfuno’r cytundeb dinas a’r adnoddau ychwanegol a ryddhawyd heddiw, fod cynhyrchiant ardal cytundeb dinas Caerdydd yn cael ei gynyddu, fel ein bod yn cynyddu ffyniant cyffredinol yr ardal honno. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio’r arian ychwanegol gyda Chaerdydd mewn golwg er mwyn chwyddo cynhyrchiant economi Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos, er mwyn sicrhau cyfleoedd gwaith gwell, ond yn bennaf oll, er mwyn cynyddu cyfoeth yr ardal?