<p>Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:35, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nid oes gan Gymru uned mam a’i baban arbenigol ac yn ddiweddar daeth etholwr ataf i sôn am brofiad ei merch a fu’n dioddef o seicosis ôl-enedigol ar ôl rhoi genedigaeth ond bu’n rhaid iddi fynd i Lundain i gael triniaeth arbenigol. Bydd llawer o famau mewn sefyllfaoedd tebyg yn cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod tra’n cael triniaeth mewn ysbytai anarbenigol. Faint o ddyraniad y gyllideb iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fydd yn cael ei roi tuag at ofalu am famau â seicosis ôl-enedigol a materion iechyd meddwl amenedigol eraill?