<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:47, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Un o’r ysgogiadau polisi y mae llawer o Lywodraethau yn dechrau canolbwyntio arno yw’r syniad o fanc seilwaith, fel y crybwyllais wrth y Prif Weinidog ddoe. Rydym wedi gweld un yn cael ei gyhoeddi y mis hwn yng Nghanada gan y Prif Weinidog yno. Cafodd Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd ei greu y llynedd, ac mae’r cyn-Brif Weinidog Llafur yn Awstralia wedi bod yn trafod gwneud yr un peth. Cytunaf ag ef na fydd £400 miliwn dros bum mlynedd, yn sicr, yn ein galluogi i wneud unrhyw beth ystyrlon o ran y tanfuddsoddi a fu yn seilwaith Cymru dros sawl degawd. Felly, oni ddylem fod yn edrych hefyd ar yr ysgogiad polisi hwn y mae llawer o Lywodraethau ar draws y byd yn credu bellach yw’r cyfrwng i allu creu’r math o fecanwaith buddsoddi cyhoeddus-preifat sydd ei angen arnom er mwyn dal i fyny o ran ein buddsoddiad seilwaith.