<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:48, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, Ddirprwy Lywydd, nod y Llywodraeth hon fydd manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfalaf ychwanegol a ddaw i ni o ganlyniad i ddatganiad yr hydref. Ond ni fydd £400 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd yn diwallu anghenion Cymru. Nid yw hyd yn oed yn dechrau adfer y toriad o un rhan o dair a welsom yn ein rhaglen gyfalaf ers y flwyddyn 2010. Dyna pam, fel Llywodraeth, ein bod wedi mynd ar drywydd cyfres o ffyrdd arloesol o ddarparu buddsoddiad yn economi Cymru. Llwyddodd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, i wneud hynny drwy ddefnyddio pwerau benthyca llywodraeth leol a chymdeithasau tai. Mae gennym drefniadau ariannol arloesol pellach ar waith i greu’r Felindre newydd ac i gwblhau’r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd. Cafodd y syniad a gyflwynodd Adam Price y prynhawn yma ei drafod gyda’r Prif Weinidog ddoe, a gwn y bydd fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi clywed y drafodaeth honno ac y bydd yn awyddus i’w ddatblygu ymhellach.