Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, rwy’n rhannu cred yr Aelod fod integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi manteision i gleifion ac i ddefnyddwyr, a gall hynny helpu i ysgogi arbedion effeithlonrwydd. Dyna pam, yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, rydym yn cynnal y gronfa ofal £60 miliwn i annog mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam y bydd gennym gyllidebau cyfun yn gweithredu ar ôl traed gwasanaethau cymdeithasol rhanbarthol, a dyna pam, yn y trafodaethau rwy’n eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, fod y syniad o ddod â gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd ar sail ranbarthol, i wynebu byrddau iechyd, yn ein helpu i wneud cynnydd, a chynnydd cyflym, i’r cyfeiriad hwnnw.