Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad diweddar y Sefydliad Iechyd, ‘Y llwybr i gynaliadwyedd: rhagolygon cyllid ar gyfer y GIG yng Nghymru i 2019/20 a 2030/31’, yn tynnu sylw at yr angen am gynnydd o tua 60 y cant yn y cyllid i £10.4 biliwn erbyn 2030-31 er mwyn ateb y galw a ragwelir. Maent hefyd yn nodi’r angen am fwy o effeithlonrwydd, a gwyddom fod rhaid cael ffyrdd callach o weithio, yn enwedig wrth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Yn seiliedig ar y diwygiadau llywodraeth leol sydd ar y gweill gennych, a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys ôl troed saith consortia rhanbarthol, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, pa gynlluniau rydych yn eu rhoi ar waith yn awr i sicrhau y gellid sicrhau gwell arbedion effeithlonrwydd drwy fodel iechyd a gofal cymdeithasol cwbl integredig?