Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 23 Tachwedd 2016.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod yn rhaid i gydweithredu gorfodol o’r fath arwain at elw ar fuddsoddiad, boed hynny’n gyflawni mwy am lai, mwy am yr un peth, neu’r un peth am lai, ac os yw hynny’n wir, sut y mae’n rhagweld y bydd awdurdodau lleol yn gallu cyfiawnhau cydweithredu, fel gofyniad gorfodol, pan na fydd yr achos busnes ar gyfer cydweithredu o reidrwydd yn sicrhau budd uniongyrchol i’r naill neu’r llall o’r awdurdodau lleol unigol a fydd yn rhan o’r broses gydweithredu?