<p>Cydweithredu o ran Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:57, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Hefin David am y cwestiwn atodol gan ei fod yn rhoi ei fys ar yr union reswm pam rwyf wedi dweud bob amser y bydd yn rhaid i’r trefniadau hyn fod yn orfodol yn ogystal â systematig. Mae gormod o enghreifftiau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru lle y mae awdurdod lleol unigol wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech yn ceisio sicrhau trefniant rhanbarthol cydweithredol, i ddarganfod, ar y funud olaf, fod un o’r awdurdodau sy’n cymryd rhan wedi symud oddi wrth y bwrdd am nad ydynt yn gweld sut y mae eu budd cul eu hunain yn cael ei hyrwyddo yn yr hyn y maent i gyd yn cytuno sy’n batrwm ehangach o fudd. Ni allwn gael trefniadau yng Nghymru lle y mae gan awdurdodau lleol unigol bersbectif mor gul, a chyfyngedig o ran amser, ar eu buddiannau eu hunain ac yna’n aberthu buddiannau ehangach rhanbarth lle y gellid gwneud cynnydd. Felly, yr unig ffordd i oresgyn hyn, fel rwy’n gweld pethau, yw drwy gytuno ar y trefniadau hyn; rwy’n awyddus iawn i barhau â’r sgwrs honno. Ond ar ôl cytuno arnynt, byddant yn orfodol a bydd yn rhaid i bawb chwarae eu rhan ynddynt.