Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ein dau o’r un genhedlaeth ac yn ôl pob tebyg, ni yw’r unig ddau yn y Siambr hon sy’n cofio Papur Gwyn 1994 i sefydlu awdurdodau unedol. Rwy’n siŵr mai ni yw’r unig bobl a fuasai wedi ei ddarllen. Roedd yn dweud mai’r hyn sydd wrth wraidd y cysyniad o awdurdodau unedol oedd y buasai’n rhaid iddynt gydweithredu, ond genhedlaeth yn ddiweddarach—cafwyd rhai partneriaethau, wrth gwrs—mae’r math hwnnw o ddiwylliant cydweithredol eto i’w sefydlu. Ac mae hynny yr un mor bwysig â’r hyn y buaswn yn ei groesawu—y mesurau mwy gorfodol y gallai fod yn rhaid eu rhoi ar waith i sicrhau y gallwn eu cael i gydweithio’n effeithiol o’r diwedd.