Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Un elfen o gytundeb dinas Caerdydd yw creu bwrdd sgiliau a chyflogaeth prifddinas-ranbarth Caerdydd. Un o swyddogaethau’r bwrdd fydd sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn ymateb i anghenion busnesau a chymunedau lleol. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ddarpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn ninas-ranbarth Caerdydd a sut y bydd hyn yn sicrhau manteision i dde-ddwyrain Cymru, os gwelwch yn dda?