Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, diolch i Mohammad Asghar am y cwestiwn. Mae’n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod y bwrdd hwnnw wedi cael ei greu, ac roeddwn yn falch o weld fod y bwrdd nid yn unig yn cynnwys yr awdurdodau lleol eu hunain ond cynrychiolwyr addysg, cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr y trydydd sector hefyd. Mae’r cytundeb £1.3 biliwn rydym yn ei ddarparu ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gyfuniad o gyllid awdurdodau lleol eu hunain, cyllid a fydd yn dod gan Lywodraeth y DU a chyllid a ddaw gan yr Undeb Ewropeaidd, ond daw’r rhan fwyaf o’r cyllid—y cyfrannwr mwyaf—gan Lywodraeth Cymru ei hun, ac mae’n cyd-fynd yn union â’r dibenion hynny i wneud yn siŵr fod gennym, yn ogystal â chysylltedd corfforol, sylfaen sgiliau ymhlith y boblogaeth leol sy’n golygu bod hwn yn lle deniadol i gyflogwyr ddod yma a chreu cyfleoedd economaidd.