<p>Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:07, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Tref Llanfair Caereinion wedi bod yn gohebu â mi ar y mater hwn ers peth amser. Mae cyngor y dref yn awyddus i gymryd y gwaith o redeg llyfrgell y dref o reolaeth y cyngor sir. Os na fydd hyn yn digwydd mae’n ofni y bydd llyfrgell y dref yn debygol o gau.

Nawr, mae cyngor cyfreithiol a roddwyd i gyngor y dref yn eu gwahardd yn weithredol rhag ariannu’r llyfrgell o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol wedi derbyn cyngor cyfreithiol i’r gwrthwyneb. Rwy’n ddiolchgar i chi am ysgrifennu ataf ar y mater hwn mewn cryn fanylder heddiw—rwy’n gwerthfawrogi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. A fuasech yn cytuno i ddarparu eglurder ar weithredu adran 137 yn hyn o beth?