1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2016.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ymwneud â phwerau awdurdodau lleol i fynd i gostau? OAQ(5)0056(FLG)
Diolch i Russell George am y cwestiwn. Mae’r pŵer hwn yn adran 137 yn caniatáu i gyngor tref neu gymuned fynd i gostau cyfyngedig at ddibenion nad oes ganddo unrhyw bŵer neu ddyletswydd benodol arall drostynt, ac a fydd yn sicrhau budd uniongyrchol i’w hardal neu unrhyw ran ohoni.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Tref Llanfair Caereinion wedi bod yn gohebu â mi ar y mater hwn ers peth amser. Mae cyngor y dref yn awyddus i gymryd y gwaith o redeg llyfrgell y dref o reolaeth y cyngor sir. Os na fydd hyn yn digwydd mae’n ofni y bydd llyfrgell y dref yn debygol o gau.
Nawr, mae cyngor cyfreithiol a roddwyd i gyngor y dref yn eu gwahardd yn weithredol rhag ariannu’r llyfrgell o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol wedi derbyn cyngor cyfreithiol i’r gwrthwyneb. Rwy’n ddiolchgar i chi am ysgrifennu ataf ar y mater hwn mewn cryn fanylder heddiw—rwy’n gwerthfawrogi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. A fuasech yn cytuno i ddarparu eglurder ar weithredu adran 137 yn hyn o beth?
Rwy’n ddiolchgar i Russell George am dynnu fy sylw at hyn ac am ddarparu copïau o’r ohebiaeth rhwng Cyngor Tref Llanfair Caereinion a Chyngor Sir Powys, sy’n dangos y pwynt y mae’n ei wneud. Mae fy swyddogion eisoes wedi darparu cyngor i gynghorau tref a chymuned eraill ym Mhowys, ac yn gyffredinol, ein cyngor yw bod y cyfyngiad ariannol a nodir yn adran 137(4) yn parhau i fod yn berthnasol mewn amgylchiadau lle y mae cyngor tref neu gymuned yn ceisio arfer y pŵer llesiant a geir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 i gefnogi’r gwariant angenrheidiol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gymhwyso’r egwyddor gyffredinol honno ym mhob cyfres benodol o amgylchiadau, a dyna’r ddadl sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng rhai cynghorau tref a chymuned a Chyngor Sir Powys ei hun.
Yr hyn rwyf am ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: rwy’n bwriadu cyflwyno cynigion fel rhan o unrhyw ymgynghoriad ar ddiwygio llywodraeth leol i egluro’r gyfraith mewn perthynas â phŵer a galluoedd cynghorau tref a chymuned i gymryd rheolaeth ar wasanaethau ac asedau. Felly, hyd yn oed os oes rhywfaint o amwysedd neu wahaniaeth barn ar hyn o bryd, rwyf am gefnogi cynghorau tref a chymuned yn yr ymdrechion pwysig y maent yn eu gwneud i gynnal gwasanaethau mewn cymunedau lleol. Byddwn yn manteisio ar unrhyw ymgynghoriad y byddwn yn ei gyflwyno i geisio gwneud hynny.
Yn hanesyddol, yn y dyddiau cyn treth y pen, roedd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio’r hyn sy’n cyfateb i gynnyrch y dreth geiniog i gyflawni gweithgaredd er lles eu hardal leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi mai’r hyn sydd ei angen, a’r hyn y mae awdurdodau lleol wedi gofyn amdano ers cyn cof, yw pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, felly os yw er budd i’w hardal, os mai dyna y mae’r cyngor yn pleidleisio drosto, a dyna y mae’r etholwyr ei eisiau, yna gallant wario arian arno?
Mae Mike Hedges yn hollol gywir ac mae’n ein hatgoffa, yn y Bil drafft ar lywodraeth leol a gyflwynwyd gan y Gweinidog blaenorol, mai dyna’n union oedd y cynnig: darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol i’r prif awdurdodau ac yn wir, pŵer cymhwysedd i gynghorau tref a chymuned a oedd yn gallu cyrraedd trothwy penodol o gymhwysedd yn eu materion eu hunain. Er nad ydym wedi gallu dod i gytundeb hyd yn hyn ar rai o agweddau pwysig o ddiwygio llywodraeth leol, roedd honno’n agwedd a gafodd ei chroesawu’n gyffredinol, ac yn bendant rwy’n bwriadu bwrw ymlaen â’r mater os caf gyfle i wneud hynny.