Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Mae Mike Hedges yn hollol gywir ac mae’n ein hatgoffa, yn y Bil drafft ar lywodraeth leol a gyflwynwyd gan y Gweinidog blaenorol, mai dyna’n union oedd y cynnig: darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol i’r prif awdurdodau ac yn wir, pŵer cymhwysedd i gynghorau tref a chymuned a oedd yn gallu cyrraedd trothwy penodol o gymhwysedd yn eu materion eu hunain. Er nad ydym wedi gallu dod i gytundeb hyd yn hyn ar rai o agweddau pwysig o ddiwygio llywodraeth leol, roedd honno’n agwedd a gafodd ei chroesawu’n gyffredinol, ac yn bendant rwy’n bwriadu bwrw ymlaen â’r mater os caf gyfle i wneud hynny.