Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, rhan fawr o waith y Llywodraeth yw penderfynu ar flaenoriaethau, ac i mi nid oes blaenoriaeth sy’n uwch nag addysg. Rwy’n credu bod poblogaeth wedi’i haddysgu’n dda o fudd i bob agwedd ar fywyd a chyfleoedd bywyd mewn cymunedau. Yn ogystal â hynny, roedd yr adroddiad diweddar gan Gerry Holtham a Brian Morgan yn edrych ar bolisi datblygu economaidd ym mhob rhan o’r byd a chanfu’r gydberthynas gryfaf rhwng gwariant ar ysgolion a llwyddiant economaidd. Felly, rwy’n croesawu’r dyraniad newydd diweddar yn fawr iawn, ond rwy’n meddwl tybed a wnewch chi barhau i ystyried yn ofalus iawn, gyda’r Prif Weinidog a’ch cyd-Aelodau yn y cabinet, a ellir sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i’n hysgolion yng Nghymru.