Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch i John Griffiths am hynny. Mae’n gwneud pwynt y mae eraill wedi’i wneud y prynhawn yma: fod buddsoddi mewn cyfalaf dynol yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn barhau i gynnal ein heconomi a’n ffyniant economaidd yn y dyfodol. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Trysorlys fod y gwariant ar addysg yng Nghymru yn parhau i fod 4 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae gan y gyllideb ddrafft a gyhoeddais, ynddi ei hun, fwy na £90 miliwn yn ychwanegol at y llinell sylfaen i allu gwneud y grant amddifadedd disgyblion yn rhan barhaol o’n cyllido yng Nghymru; £20 miliwn ar ben hynny i godi safonau ysgolion; a £0.5 biliwn yn mynd yn bennaf tuag at raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gyda £28 miliwn ohono yno ar gyfer Casnewydd. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n sicrhau’r Aelod fod yr angen i barhau i fuddsoddi mewn addysg, hyd yn oed pan fydd rhaid pennu blaenoriaethau anodd, yn un sy’n bendant yn ein meddyliau.