<p>Yr Ardoll Brentisiaethau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:16, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n destun pryder fod yr hyn rydym yn ei gael gan Lywodraeth ganolog y DU, mewn gwirionedd, yn cael ei gymryd yn ôl mewn rhan arall, ond hefyd rydym yn ariannu ein cyrff cyhoeddus ac mae’n rhaid iddynt roi’r arian hwnnw yn ôl i’r Trysorlys o dan yr ardoll brentisiaethau. A allwch roi sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prentisiaethau? Mae llawer o’r cyrff rwyf wedi eu cyfarfod yn digwydd bod yn talu’r ardoll hon ac felly maent yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi am gyflogi prentisiaid mewn gwirionedd ond nid ydynt yn cael unrhyw beth yn ôl. Yn Lloegr gwn fod ganddynt system dalebau, ond ymddengys nad oes gennym unrhyw beth o gwbl yma.