<p>Cronfeydd Strwythurol yr UE (Gogledd Cymru)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:18, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae arian yr UE wedi helpu i sicrhau arloesedd yng ngogledd Cymru, drwy gynorthwyo mentrau fel ADC Biotechnology a leolir yn OpTIC yn Llanelwy, yn ogystal â chyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n cefnogi darpariaeth cymorth dwys ac ystod o ymyriadau pwrpasol i helpu i ddod â phobl yn agosach at y farchnad lafur drwy raglen OPUS Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Twf Swyddi Cymru wrth gwrs. Cipolwg yn unig yw hyn ar yr hyn y mae cronfeydd yr UE wedi helpu i’w wireddu yng ngogledd Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a all ein sefydliadau a’n cymunedau yng ngogledd Cymru ddibynnu ar gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i sicrhau arian yr UE i gefnogi busnesau a swyddi yn y rhanbarth?