<p>Cronfeydd Strwythurol yr UE (Gogledd Cymru)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am y cyfle i ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru, sef y byddwn yn ceisio sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl er lles cymunedau ledled Cymru cyhyd ag y byddwn yn parhau’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Erbyn diwedd y mis hwn, o ganlyniad i gyflymu’r rhaglen yn yr amgylchiadau rydym yn eu hwynebu yn awr, bydd gennym gytundebau ar waith mewn perthynas â 60 y cant o’r gwerth £1.9 biliwn o ddyraniadau cronfeydd strwythurol yr UE. Byddwn yn parhau i gymeradwyo cynlluniau y tu hwnt i hynny a bydd y cymeradwyaethau hynny yr un mor berthnasol i ogledd Cymru ag i unrhyw ran arall o’n cenedl.