<p>Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:20, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mewn llythyr ataf ar 7 Tachwedd, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch nad oeddech yn gweld bod angen diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n datgan bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu o leiaf un cyfleuster i breswylwyr lle y gallant waredu gwastraff y cartref. Nawr, yn sgil y ffaith fod y ganolfan ailgylchu ym Machynlleth wedi cau, ynghyd â’r ffaith fod yr awdurdod lleol bellach yn ystyried cau canolfannau ailgylchu pellach naill ai yn y Drenewydd neu’r Trallwng, a gaf fi eich annog i ystyried diwygio adran 51 y Ddeddf er mwyn caniatáu i bob un o drigolion Cymru gael mynediad at ganolfan ailgylchu o fewn pellter rhesymol i’w cartref, yn hytrach na thaith bosibl o 80 milltir, fel y gallai fod yn wir mewn rhai ardaloedd yng nghefn gwlad Cymru bellach?