Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Gwn ein bod wedi gohebu ar y mater hwn, ac rwy’n credu fy mod, yn ôl pob tebyg, wedi dweud yn y llythyr atoch fod gan awdurdodau lleol lefel uchel o ymreolaeth a hyblygrwydd yn y mater hwn, ac mae hynny’n eu galluogi, mewn gwirionedd, i ymateb i anghenion lleol ac adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Buaswn yn parhau i annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ym Mhowys, ac nid wyf yn gweld unrhyw angen o hyd i ddiwygio adran 51 o’r Ddeddf ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy’n fodlon adolygu’r safbwynt hwnnw os yw’r amgylchiadau ym Mhowys, neu unrhyw le arall o ran hynny, yn galw am hynny.