Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Mewn perthynas â ffermydd gwynt, rwy’n deall bod gan rai pobl bryderon yn eu cylch, ond buaswn hefyd yn credu y buasai gan y bobl hynny bryderon pe na bai’r golau yn dod ymlaen wrth iddynt wasgu’r swits. Mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn bendant yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy wrth symud ymlaen.