Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, yn amlwg nid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall mai rhan o’r broblem gyda bod yn ddibynnol ar ynni adnewyddadwy yw ei bod yn bosibl iawn na fydd y goleuadau’n dod ymlaen wrth i chi wasgu’r swits. Ar hyn o bryd, mae’r Grid Cenedlaethol yn cynhyrchu 3.33 y cant o bŵer o ffynonellau adnewyddadwy, o’i gymharu â 17.32 y cant o lo a 49.68 y cant o dyrbinau nwy cylch cyfun. Mae’n rhaid cynnal tyrbinau nwy cylch cyfun er mwyn ymdopi â natur ysbeidiol y gwynt. Mae’r Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi dweud bod dibynnu ar ffynonellau ynni ysbeidiol yn ofer oherwydd dyblu’r gost yn y ffordd hon, gan mai 20 y cant yn unig yw ffactor capasiti cyfartalog tyrbinau gwynt. Felly, am 80 y cant o’r amser nid ydynt yn cynhyrchu digon o wynt ac felly, mae’n rhaid cael ffynonellau cynhyrchu eraill yn ogystal, sy’n dyblu’r costau cyfalaf ac sydd hefyd, wrth gwrs, yn rhyddhau allyriadau carbon deuocsid yn y broses oherwydd natur ynni-ddwys yr hyn sydd angen ei greu drwy eu costau cyfalaf.