<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:36, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, o dan gytundebau Paris, wrth gwrs, bydd India yn treblu ei hallyriadau carbon deuocsid yn y 15 mlynedd nesaf a bydd Tsieina yn eu dyblu tra ydym ni’n aberthu, a’r aberth hwnnw oedd testun fy nghwestiynau y prynhawn yma. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gyfrifol am faterion gwledig a chefn gwlad, ac mae twristiaeth yn hanfodol bwysig yng nghanolbarth Cymru. Ni fydd llenwi cefn gwlad â melinau gwynt yn gwneud dim o gwbl i ddenu twristiaid i ganolbarth Cymru. Rwy’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—er mwyn cael rhywfaint o gymesuredd ar hyn—mae digon o leoedd lle y gallwch adeiladu ffermydd gwynt neu gynhyrchu trydan mewn ffyrdd adnewyddadwy eraill drwy ddefnyddio paneli solar ac yn y blaen mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol nad ydynt yn barciau cenedlaethol o bosibl; oni fuasai’n well peidio â chael y ffermydd gwynt hyn a chanolbwyntio ar eu hadeiladu mewn mannau eraill?