Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Rwy’n sicr yn cydnabod bod ffynonellau ynni sy’n bodoli’n barod, megis glo, yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac yn darparu ynni i ni, ond mae angen i ni edrych, nid yn unig ar y gymysgedd ynni ar hyn o bryd ond y gymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae’n bosibl nad ydych am ymrwymo i gytundeb Paris ond rwy’n hollol hapus i ymrwymo iddo ac rwy’n credu y buasai’r rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr yn hapus i ymrwymo iddo, ac rydym yn ymrwymedig i newid y ffynonellau ynni hynny oni bai bod technolegau datgarboneiddio priodol yn dod yn weithredol. Felly, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni amgen yn y dyfodol.