Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Y realiti yw, wrth gwrs, Ysgrifennydd Cabinet, fod y Llywodraeth wedi torri’r gyllideb gyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i roi hyd yn oed mwy o bwysau ar yr angen i ddatblygu strategaethau amgen a gweithio gyda thirfeddianwyr, er enghraifft, i gadw dŵr yn yr ucheldiroedd ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, mae’r Llywodraeth wedi bod yn sôn am hynny ers blynyddoedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn sôn am hynny ers blynyddoedd, ond nid yw’r symudiad i’r modd yna o weithio wedi digwydd i’r raddfa a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, a gaf i ofyn pa gymhellion ychwanegol a ydych chi fel Llywodraeth yn eu hystyried o safbwynt tirfeddianwyr i gael y sifft ‘decisive’ yna yn y modd yna o weithredu? Ac, yn fwy penodol felly, pa ystyriaeth a ydych chi’n ei rhoi i roi gwell cymhelliant i dirfeddianwyr ac i amaethwyr i ddefnyddio eu tiroedd fel gorlifdiroedd, oherwydd yn sicr mewn ardaloedd fel dyffryn Conwy mi fyddai hynny yn gwneud cryn wahaniaeth?