<p>Rheoli’r Risg o Lifogydd yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:39, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno gyda chynrychiolwyr ffermio, ond credaf fod hynny’n rhywbeth y gallaf ei ystyried, yn sicr. Hoffwn atgoffa’r Aelodau ein bod yn dal i fuddsoddi £55 miliwn ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac er i ni weld llifogydd yr wythnos hon, yn enwedig i lawr yn ne Cymru, credaf ein bod wedi eu gweld ar raddfa lai oherwydd yr amddiffynfeydd a roesom yn eu lle a’r buddsoddiad ariannol a wnaethom. Ond wrth gwrs, nid yw hynny’n gysur os ydych wedi cael llifogydd yn eich cartref.

Mae gennym y rhaglen rheoli risg arfordirol gwerth £150 miliwn hefyd, ac unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol i’w gweithredu. Ond yn sicr, byddwn yn fwy na pharod—. Rwy’n cyfarfod â’r undebau ffermio yn ystod yr wythnosau nesaf, a buaswn yn sicr yn fwy na pharod i gael y drafodaeth honno â hwy.