Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Mae’r gyfarwyddeb ansawdd aer yn un o gyfarwyddebau pwysicaf yr UE. Mae’n ofynnol i lywodraethau sicrhau cydymffurfiaeth erbyn y dyddiad cynharaf posibl o ran lleihau cysylltiad cyn gynted â phosibl. Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynlluniau ansawdd aer i fynd i’r afael â llygredd yn yr ardaloedd perthnasol, ac mae Caerdydd yn un ohonynt. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod yr Uchel Lys, yn gweithredu ar ran y gweinyddiaethau datganoledig, wedi barnu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd y safon a bod Mr Ustus Garnham bellach wedi gorchymyn Llywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru yn ôl pob tebyg, i gynhyrchu cynlluniau newydd erbyn diwedd Ebrill 2017. Tybed a allech chi, yn eich trafodaethau gyda Andrea Leadsom, ddweud wrthym sut y byddwn yn cyflymu ein cynlluniau i leihau llygredd aer yng Nghaerdydd, sydd, fel y gwyddoch, yn lladd dros 40,000 bobl cyn eu hamser ledled y DU.