<p>Effaith Brexit ar Bolisi Amgylcheddol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol o ddyfarniad Uchel Lys Llywodraeth y DU. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod yn ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn ag ansawdd aer a rheoli sŵn. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn parhau tan 6 Rhagfyr. Rwy’n bwriadu defnyddio’r dystiolaeth a’r ymatebion a gawn yn rhan o’r ymgynghoriad hwnnw—defnyddio’r dystiolaeth wrth fwrw ymlaen erbyn y bydd angen i ni gyflwyno ein hymateb yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.